Cymru'n gwneud cais i gynnal cwpan byd

Cymru enillodd bencampwriaeth saith-bob-ochr y byd yn 2009 Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cymru enillodd bencampwriaeth saith-bob-ochr y byd yn 2009

Bydd Cymru'n gwneud cais i gynnal Cwpan Rygbi Saith-bob-ochr y Byd yn 2018.

Cymru yw pencampwyr saith-bob-ochr y byd oherwydd eu buddugoliaeth yn Dubai yn 2009 ac fe fyddan nhw'n ceisio amddiffyn eu teitl ym Moscow yn ddiweddarach yn y mis.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod yn awyddus i gynnal cystadleuaeth yn 2018 yn Stadiwm y Mileniwm ac un stadiwm arall, o bosib Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae'r undeb yn gobeithio cyflwyno'u cais ffurfiol cyn diwedd y flwyddyn.

Y drefn yn newid

Hyd yma mae'r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal bob pedair blynedd ers 1993 ond fe fydd y drefn yn newid yn dilyn y penderfyniad i gynnwys rygbi saith-bob-ochr yn y Gemau Olympaidd yn Rio De Janeiro yn 2016.

Bydd y gystadleuaeth wedyn yn dal i gael ei chynnal bob pedair blynedd ond hanner ffordd rhwng bob Gemau Olympaidd.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd mewn ymgais i ddenu'r gysadleuaeth i Brydain am y tro cyntaf ers i'r Alban gynnal y gystadleuaeth gyntaf yn 1993.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.