Cyflwyno Coron Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau

Coron yr Eisteddfod 2013 Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Coron Eisteddfod 2013: gwaith Andrew Coomber gyda chymorth myfyrwyr celf o Brifysgol Glyndŵr

Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau wedi ei chyflwyno mewn seremoni arbennig.

Hon yw'r wobr am gyfres o gerddi di-gynghanedd yn llai na 250 llinell o dan y teitl Terfysg fydd yn cael ei chyflwyno ddydd Llun Awst 5.

Cafodd yr artist a gemydd lleol Andrew Coomber ei gomisiynu i greu'r Goron ac mae wedi cwblhau'r gwaith gyda chymorth myfyrwyr celf o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

'Tirwedd a lliw'

Mae'r Goron yn rhodd Cangen Sir Ddinbych a Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru ac wedi ei hysbrydoli gan dirwedd a lliw ardal amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau.

Yn ôl yr artist, mae'r cynllun yn adlewyrchu bryniau a thir amaethyddol y dyffryn.

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Mae'r Goron yn adlewyrchu lliwiau a thirwedd Dyffryn Clwyd

"Mae elfennau o'r Goron yn adlewyrchu lliwiau Bryniau Clwyd a Moel Famau, gyda gwerthoedd troellog a llinellog ffyrdd, llwybrau a ffensiau'r ardal, gan greu gwrthgyferbyniad gyda'r paneli lliw sy'n cynrychioli'r caeau gweledig ar wahanol adegau o'r tymor," meddai.

Dywedodd Llywydd Cangen Sir Ddinbych yr undeb Eryl Hughes: "Mae dyluniad y Goron yn dangos yn glir sut mae ffermio wedi goroesi mewn cydbwysedd â natur, sy'n galluogi bwyd i gael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy a sicrhau natur i ffynnu a'r gymdeithas i elwa o ystod eang o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr amgylchedd naturiol."

'Uchafbwynt'

Roedd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, John Glyn Jones, yn y seremoni yn nhref Dinbych i dderbyn y Goron ar ran yr Eisteddfod.

"Mae'n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron hardd hon ar ran y Brifwyl. Mae seremoni cyflwyno'r Goron yn un o uchafbwyntiau'r wythnos ac rydym yn mawr obeithio y bydd bardd haeddiannol yn derbyn y Goron hon yn Ninbych ymhen rhai wythnosau."

Cafodd y Goron ei chreu o 150 o ddarnau unigol, gyda phedwar darn o alwminiwm wedi eu lliwio ar y gwaelod, a darlun wydr o Dŵr y Jiwbilî ar Foel Famau ar ei phen.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.