Saith o Gymru yn nhîm y Llewod

  • 13 Mehefin 2013
Sam Warburton
Sam Warburton fydd yn arwain y tîm

Mae saith o Gymry wedi cael eu henwi yn nhîm y Llewod fydd yn herio'r NSW Waratahs ddydd Sadwrn, gyda dau arall ar y fainc.

Sam Warburton fydd yn arwain y tîm yn Sydney gan ddechrau ei ail gêm ar y daith.

Mae'r ddau asgellwr - George North ac Alex Cuthbert - yn cael gorffwys llwyr. Roedd Cuthbert wedi dechrau tair o'r pedair gêm ar y daith hyd yma ac roedd North wedi teimlo tyndra mewn cyhyr yn ei goes yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn tîm cyfunol NSW/Queensland Country XV ddydd Mawrth.

Daw pedwar o olwyr y Llewod o Gymru gan gynnwys y bartneriaeth o Jonathan Davies a Jamie Roberts yn y canol, ac yn y pac mae Adam Jones ac Alun-Wyn Jones yn ymuno â Warburton.

Bydd Simon Zebo'n cael ei gêm gyntaf ar yr asgell ar ôl cael ei alw i mewn i'r garfan fel chwaraewr wrth gefn ddydd Mawrth.

'Gweithio'n galed'

Wrth gyhoeddi'r tîm dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland:

"Mae gennym bawb o'r blaenwyr yn iawn, ond yr olwyr sydd wedi diodde' - mwy na thebyg oherwydd y ffordd yr ydym wedi chwarae.

"Rydym wedi symud y bêl, ac mae'r olwyr wedi gorfod gweithio'n galed ac wedi talu'r pris am hynny ychydig bach."

Roedd yn siarad yn benodol am George North a Brian O'Driscoll wedi i'r ddau deimlo man anafiadau yn dilyn y fuddugoliaeth yn Newcastle ddydd Mawrth.

Yn y cyfamser fe fydd Billy Twelvetrees yn cyrraedd Awstralia ddydd Iau. Cafodd y chwaraewr amryddawn ei alw i'r garfan fel chwaraewr wrth gefn yn dilyn anaf i Tommy Bowe dros y penwythnos diwethaf.

Does dim sicrwydd y bydd Bowe yn gorfod gadael y daith wedi iddo gael llawdriniaeth ar anaf i'w law, ond gall Twelvetrees chwarae mewn sawl safle ymhlith yr olwyr pe bai mwy o anafiadau.

TÎM Y LLEWOD v.NSW WARATAHS: SYDNEY, DYDD SADWRN, MEHEFIN 15:

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

14. Sean Maitland (Yr Alban)

13. Jonathan Davies (Cymru)

12. Jamie Roberts (Cymru)

11. Simon Zebo (Iwerddon)

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

9. Mike Phillips (Cymru)

1. Mako Vunipola (Lloegr)

2. Tom Youngs (Lloegr)

3. Adam Jones (Cymru)

4. Alun-Wyn Jones (Cymru)

5. Paul O'Connell (Iwerddon)

6. Tom Croft (Lloegr)

7. Sam Warburton (Cymru; capten)

8. Jamie Heaslip (Iwerddon)

Eilyddion :- Richard Hibbard (Cymru), Alex Corbisiero (Lloegr), Dan Cole (Lloegr), Geoff Parling (Lloegr), Dan Lydiate (Cymru), Ben Youngs (Lloegr), Owen Farrell (Lloegr), Rob Kearney (Iwerddon).