Pedwar newid yn nhîm Cymru

Josh Navidi Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Josh Navidi yn ennill ei gap cyntaf

Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Robin McBryde wedi cyhoeddi pedwar newid ar gyfer yr ail gêm brawf yn erbyn Japan fore Sadwrn.

Bydd blaenasgellwr y Gleision, Josh Navidi, yn ennill ei gap cyntaf, ac mae Tom Prydie, Rhys Gill ac Andries Pretorius yn dod i mewn i'r tîm yn ogystal.

Yn ôl y disgwyl mae Dan Biggar wedi gwella o anaf ac fe fydd yn dechrau fel maswr gyda Lloyd Williams fel mewnwr.

Er i'r prop Craig Mitchell hefyd wella o anaf, ar y fainc y bydd yntau ar y dechrau yn Stadiwm Coffa Prince Chichibu yn Tokyo.

Dywedodd McBryde: "Roedden ni'n falch o ymdrechion y tîm y Sadwrn diwethaf, ond rydym yn gwybod y bydd angen ymdrech arall y tro hwn.

"Mae'r chwaraewyr wedi ei gwneud yn dasg anodd i ddewis pymtheg, gan ddangos eu penderfyniad i fynd allan i gynrychioli eu gwlad.

"Dangosodd Japan llawer o'u gallu y penwythnos diwethaf, ac rydym yn gwybod y bydd rhaid i ni fod ar ein gorau i gael ail fuddugoliaeth a gorffen y tymor ar nodyn uchel."

TÎM CYMRU v. JAPAN; TOKYO; DYDD SADWRN, MEHEFIN 15:-

15. Liam Williams (Scarlets)

14. Harry Robinson (Gleision)

13. Owen Williams (Gleision)

12. Jonathan Spratt (Gweilch)

11. Tom Prydie (Dreigiau)

10. Dan Biggar (Gweilch

9. Lloyd Williams (Gleision)

1. Rhys Gill (Saracens)

2. Emyr Phillips (Scarlets)

3. Scott Andrews (Gleision)

4. Bradley Davies (Gleision; capten)

5. Lou Reed (Gleision)

6. James King (Gweilch)

7. Josh Navidi (Gleision)

8. Andries Pretorius (Gleision)

Eilyddion:- Scott Baldwin (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Craig Mitchell (Exeter Chiefs), Andrew Coombs (Dreigiau), Dan Baker (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets), Rhys Patchell (Gleision), Dafydd Howells (Gweilch).

Straeon perthnasol