Menyw'n cael ei tharo gan drên

Mae menyw yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi iddi gael ei tharo gan drên ar Ynys Môn yn oriau man fore Iau.

Cadarnhaodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod wedi ael eu galw am 0:58am fore Iau.

Bu'r gwasanaeth ambiwlans yno hefyd, ac fe gafodd y fenyw ei chludo i uned arbennig yn ysbyty Stoke. Mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yno.

Cafodd ei tharo gan y trên 10:56pm o Gaer i Gaergybi.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin y digwyddiad fel un amheus.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.