Cae artiffisial i Barc yr Arfau

Mae'r cae wedi dioddef oherwydd tywydd gwael ar Barc yr Arfau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Yn y gêm rhwng y Gleision a'r Dreigiau y llynedd, roedd cae Parc yr Arfau yn debycach i gors

Mae'r Gleision wedi cadarnhau y bydd cae artiffisial newydd yn cael ei osod ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.

Mae'r rhanbarth, a Chlwb Rygbi Caerdydd yn gobeithio y bydd y cae yn galluogi gemau mwy difyr y tymor nesaf, wedi i dywydd drwg effeithio'r cae ar sawl tro yn ddiweddar.

Mae disgwyl i waith ddechrau ar y cae newydd yn fuan, wedi i Undeb Rygbi Cymru gymeradwyo'r cynllun.

Bydd y cae newydd yn galluogi i ddŵr ddraenio drwy'r system, ac mae'r clwb yn dweud y bydd yn galluogi'r math o rygbi y mae chwaraewyr a chefnogwyr yn mwynhau.

Yn ogystal â chreu gêm gyflymach, mae'r Gleision yn dweud y bydd y cae newydd yn golygu y gall Barc yr Arfau groesawu nifer fawr o chwaraeon eraill drwy gydol y flwyddyn.

Diogelwch chwaraewyr

Er y bydd y cae newydd yn un artiffisial, wedi ei wneud o ffibrau polymer, mae'r clwb yn dweud bod diogelwch y chwaraewyr wedi bod yn un o'r prif ystyriaethau wrth ei ddewis.

Mae'r gwneuthurwyr yn honni bod y dyluniad yn sicrhau nad oes unrhyw risgiau ychwanegol o chwarae ar gae artiffisial, o'i gymharu â chae traddodiadol.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland:

"Mae hyn yn newyddion cyffrous i holl gefnogwyr a chwaraewyr y Gleision a Chlwb Rygbi Caerdydd."

"Bydd y cae newydd yn caniatáu i gemau fynd yn eu blaen mewn unrhyw dywydd, ac yn ein galluogi ni i chwarae rygbi deniadol i'r cefnogwyr fwynhau."

Mae'r Gleision wedi chwarae ar gae tebyg mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Saracens ym mis Ionawr.

Gavin Evans oedd y capten ar gyfer y gêm honno:

"Ni wnaeth y chwaraewyr ddioddef llawer o losg, dim mwy nag ar gae gwair yn yr haf."

"Byddai'n well gen i chwarae ar gae artiffisial fel y Saracens na'r math o gae yr oedden ni'n chwarae'r Dreigiau arno dros y Nadolig."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.