A fydd Warburton yn cael lle yn y tîm?

Sam Warburton
Bydd Sam Warburton yn dechrau ei ail gêm ar y daith yn erbyn y NSW Waratahs ddydd Sadwrn

Mae hyfforddwr y Llewod Warren Gatland wedi rhybuddio y gallai adael Sam Warburton allan o'r tîm prawf os nad yw'n teimlo fod ei gapten yn chwarae'n ddigon da.

Bydd capten Cymru a'r Llewod yn dechrau ei ail gêm ar y daith yn erbyn y NSW Waratahs ddydd Sadwrn.

Gyda Justin Tipuric a Sean O'Brien yn chwarae'n dda, mae angen i Warburton geisio selio'i le yn y pymtheg fydd yn dechrau yn erbyn Awstralia.

Dywedodd Gatland: "Rwyf wedi bod yn gyson 100% o'r dechrau. Mater o ddewis y chwaraewyr gorau yw hi.

"Mae Sam yn ymwybodol o hynny. Rwy'n credu iddo gael dechrau da yn erbyn y Queensland Reds, ac fe gawn ni weld beth fydd yn digwydd ddydd Sadwrn."

Cur pen

Mae Gatland yn mynnu mai'r rheng ôl fydd yn achosi'r cur pen mwyaf iddo wrth ddewis y tîm prawf i wynebu Awstralia yn dilyn y gêm ddydd Mawrth yn erbyn yr ACT Brumbies.

"Mae pob cyfuniad yn bosibl, mae pawb yn ffit ac mae pawb wedi gwneud yn dda.

"Roedd Sean (O'Brien) yn wych y noson o'r blaen, yna mae'r talent sydd gan Tom (Croft) ynghyd â'r amddiffyn cadarn sydd gan Dan (Lydiate).

"Wedyn mae'r ddau wythwr (Jamie Heaslip a Toby Faletau) yn chwaraewyr gwahanol. Fe fydd hi'n noson hir iawn wrth benderfynnu ar y tîm terfynol."

Roedd y capten ar y daith yn croesawu'r her, gan ddweud ei fod yn gwella wrth chwarae am fwy o amser. Dywedodd Warburton:

"Y mwyaf o amser dwi'n cael ar y cae, dwi'n dueddol o chwarae'n well ac yn cael teimlad am gyflymder y gêm.

"Roedd y penwythnos diwethaf yn dda i mi, ac yn amlwg rwy'n gyfarwydd â chwarae gyda Dan a Toby, ond rwy'n edrych ymlaen hefyd at chwarae gyda Tom a Jamie nawr.

"Mae Tom wedi bod yn anhygoel yn y lein wrth ymarfer, ac mae Jamie wedi ymosod yn wych gyda'r bêl."

Anafiadau

Yn y cyfamser fe fydd gan Gatland gyfnod pryderus wrth aros i glywed am anafiadau i nifer o chwaraewyr.

Mae pryder am George North ar hyn o bryd. Dyw asgellwr Cymru ddim wedi ymarfer ddydd Gwener yn dilyn anaf i gyhyr ddydd Mawrth, ac mae pryderon hefyd am Manu Tuilagi a Brian O'Driscoll.

Mae North yn derbyn triniaeth yn dilyn y gêm yn erbyn tîm cyfunol NSW/Queensland Country ddydd Mawrth ar ôl chwarae 180 munud o rygbi o fewn saith niwrnod.

"Gobeithio y bydd yn iawn at yr wythnos nesa," meddai Gatland.

Ychwanegodd yr hyffordd y bydd angen i'r chwaraewyr brofi eu ffitrwydd yn gynnar yr wythnos nesaf cyn y byddan nhw'n cael eu hystyried ar gyfer y gemau prawf.

Oherwydd anafiadau i Tommy Bowe a Rob Kearney (fydd yn dechrau ei gêm gyntaf yn erbyn NSW Waratahs ddydd Sadwrn) mae'r straen ar weddill yr olwyr wedi bod yn amlwg gyda North ac Alex Cuthbert yn dechrau tair gêm o fewn wythnos.