Morgannwg yn ffefrynnau i ennill

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Wedi bore arbennig o fowlio gan Forgannwg, fe wnaeth batwyr Caint wella yn ystod y prynhawn gyda Key (95) a Nash (50) yn rhoi gobaith i'r tîm cartref cyn dechrau'r pedwerydd diwrnod.

Roedd Caint wedi ei bowlio allan ar ddechrau'r ail rownd am 135 ac roedd pethau'n edrych yn ddu iawn arnyn nhw wrth i Forgannwg wneud iddynt fatio eto'n syth.

Er gwaethaf trafferthion eu tîm roedd Rob Key a Sam Northeast yn edrych yn gyfforddus wrth ddechrau batio wedi'r egwyl.

Fe wnaethon nhw rannu 75 ar gyfer y wiced gyntaf, cyn i Bell-Drummond fynd yn gynnar.

Erbyn diwedd y dydd roedd Key a Nash allan hefyd.

Gyda 254 am bedair wiced, sy'n golygu eu bod ar y blaen o 11 am y gêm, bydd yn rhaid i fatwyr Caint wneud yn dda iawn i guro Morgannwg.

Fe wnaeth y tîm o Gymru sgorio 378 o bwyntiau yn ystod eu batiad cyntaf, gyda Murray Goodwin (136) yn serennu.

Pencampwriaeth y Siroedd; Adran 2 - Caint v.Morgannwg; Caergaint:-

Sgôr diweddaraf (diwedd chwarae ar y trydydd diwrnod)

Morgannwg (batiad cyntaf)= 378

Caint (batiad cyntaf) = 135

Caint (ail fatiad) = 254 am 4 wiced (46.5 pelawd)