Halfpenny yn serennu i'r Llewod

Leigh Halfpenny Image copyright Getty Images
Image caption Leigh Halfpenny yn sgorio 30 o bwyntiau i'r Llewod yn eu gêm yn erbyn y New South Wales Waratahs

Fe sgoriodd y cefnwr Leigh Halfpenny 30 o bwyntiau'r Llewod yn erbyn y New South Wales Waratahs yn Sydney.

Fe ddechreuodd y Llewod ar dân gyda'r asgellwr Simon Zebo yn croesi'r llinell gais yn eiliadau cynta'r gêm. Ond chafodd ymdrech y Gwyddel ddim ei ganiatau.

Yn fuan wedyn sgoriodd Leigh Halfpenny ei bwyntiau cyntaf gyda chic gosb.

Ymestyn y fantais

Aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen. Llwyddodd Zebo i roi'r bêl i'r canolwr Jonathan Davies cyn iddo fe ei rhyddhau hi i'r maswr Jonathan Sexton groesi'r llinell.

Ychwanegodd Leigh Halfpenny ddau bwynt at ei gyfanswm gyda'r trosiad.

Ond fe ddeffrodd y Waratahs ar ôl mynd ddeg pwynt ar ei hol hi. Roedd yna gais i'r canolwr Tom Carter a gafodd ei drosi gan Brendan McKibbin. Mi sgoriodd y mewnwr gic gosb arall cyn diwedd yr hanner.

Fe sgoriodd Halfpenny ddwy gic gosb arall at ei gyfanswm personol cyn iddo sgorio ei gais cyntaf ar hanner amser. Llwyddodd Sexton a Davies i basio'n gywir cyn rhoi'r bêl i'r Cymro groesi'r llinell. Roedd Halfpenny yn llwyddiannus eto gyda'r trosiad.

23 i 10 oedd hi ar yr egwyl.

Ail gais Halfpenny

Fe ddechreuodd Halfpenny yr ail hanner fel y dechreuodd e'r hanner cyntaf drwy sgorio cais gwefreiddiol. Roedd yna gydeithio da rhwng y ddau Gymro yn y canol, Davies a Roberts, cyn rhoi'r cyfle i'r cefnwr groesi'r llinell. Roedd Halfpenny yn llwyddiannus eto gyda'r trosiad.

Image copyright Getty Images
Image caption Ail gais i Leigh Halfpenny ar ddechrau'r ail hanner

Ond unwaith yn rhagor fe ddaeth y Waratahs yn ol i mewn i'r gem gyda Carter yn croesi am ei ail gais. Roedd yna drosiad arall i McKibbin.

Ychwanegodd Halfpenny driphwynt gyda'i seithfed cic lwyddiannus yn olynnol i ehangu'r bwlch unwaith eto rhwng y ddau dîm.

Roedd y frwydr ar ben bob pwrpas ar ôl i'r Sais Tom Croft ruthro dros y llinell. Ychwanegodd Halfpenny y trosiad cyn iddo adael y maes ar yr awr.

Cyfanswm y Cymro o 30 o bwyntiau yw'r pedwerydd uchaf erioed i chwaraewr unigol yn cynrychioli'r Llewod.

Yr unig bryder i'r Llewod oedd anaf i'r canolwr Jamie Roberts. Bu'n rhaid iddo adael y maes gyda anaf drwg i'w ysgwydd.

Davies yn creu argraff

Cyn diwedd y gêm fe sgoriodd Jonathan Davies gais haeddiannol ar ôl gweithio'n galed o'r gic gyntaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Jonathan Davies yn creu argraff cyn prawf cynta'r Llewod

Mae 'na ddyfalu nawr y bydd e yn y tîm prawf ddydd Sadwrn nesaf. Ychwanegodd yr eilydd Owen Farrell bwyntiau olaf y gêm gyda throsiad.

Dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland ei fod e wedi ei blesio gyda'r perfformiad ond bydd yna gyfle olaf nos Fawrth nawr i chwaraewyr greu argraff cyn i'r tîm prawf gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Y Llewod: Halfpenny, Maitland, Davies, Roberts, Zebo, Sexton, Phillips, Vunipola, T. Youngs, A. Jones, A. Jones, O'Connell, Croft, Warburton, Heaslip.

Eilyddion: Hibbard, Corbisiero, Cole, Parling, Lydiate, B. Youngs, Farrell, Kearney.

Waratahs: Mitchell, Crawford, Horne, Carter, Betham, Foley, McKibbin, Tilse, Ulugia, Ryan, Skelton, Atkins, Holloway, McCutcheon, Dennis.

Eilyddion: Holmes, Aho, Talakai, L. Timani, Gilbert, Lucas, Volavola, Kingston.

Dyfarnwr: Jaco Peyper (De Affrica)