Corff dyn ar lan aber yr afon Hafren

Mae corff dyn wedi ei ddarganfod ar lan aber yr afon Hafren yn ardal Casnewydd.

Dyw ei farwolaeth ddim yn cael ei drin fel un amheus meddai'r heddlu.

Credir fod y dyn yn 54 oed ac yn dod o ardal Cwmbrân.

Deëllir bod aelod o'r cyhoedd wedi rhoi gwybod i'r gwasanaethau brys tua 10.20am ddydd Sadwrn ar ol dod o hyd i'w gorff.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.