Denu gwyddonydd ymchwil blaenllaw i brifysgol Caerdydd

Athro Yves Barde
Image caption Bydd yr Athro Yves Barde yn parhau i ymchwilio i sut mae'r ymennydd yn gweithio

Mae un o brif niwrobiolegwyr y byd wedi'i benodi i swydd gyda Phrifysgol Caerdydd - y gwyddonydd cyntaf i'w benodi fel rhan o gynllun £50miliwn Llywodraeth Cymru - sy'n cael ei adnabod fel 'Sêr Cymru' - i ddenu ymchwilwyr blaenllaw i Gymru.

Mae'r Athro Yves Barde o'r Swistir yn adnabyddus am ei waith ymchwil i'r ffordd mae proteinau yn yr ymennydd yn gweithio a'u rôl mewn clefydau megis iselder.

Yn fwy diweddar mae wedi bod yn ymchwilio'r defnydd o gelloedd embryonig i drin clefydau'r system nerfau.

Mi fydd yr Athro Barde, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym Mhrifysgol Basel yn y Swistir, yn dechrau ar ei waith fis Medi 2013.

Gwaith 'gwerthfawr'

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd yr apwyntiad yn fodd o gryfhau enw Cymru ym myd gwaith ymchwil meddygol y byd ac yn amhrisiadwy wrth ddatblygu meddyginiaethau a thriniaethau newydd allai fod o fudd i'r Gwasanaeth Iechyd yma.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Rwy'n falch o groesawu'r Athro Barde i Gymru, a'r apwyntiad cyntaf o dan gynllun Sêr Cymru.

"Mi fydd yn helpu i adeiladu grŵp ymchwil blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd eu gwaith yn werthfawr, ym maes darganfod cyffuriau, meddyginiaethau clinigol ac i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."

Dywedodd y Gweinidog Economaidd a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Daw'r Athro Barde a chyfoeth o brofiad ac mae'n ddyfeisiwr byd eang ym maes niwrobeioleg. Mi fydd yn arwain tîm cryf ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe fydd eu gwaith yn hwb enfawr i waith ymchwil a gwyddor bywyd yng Nghymru.

"Mae doniau ymchwil gwyddonol cryf yn hanfodol er mwyn gwella ein lles economaidd a sicrhau dyfodol llewyrchus, iachus a chynaliadwy ar gyfer Cymru."

Ei waith

Derbyniodd Athro Barde glod rhyngwladol yn 1989, pan gafodd genyn sy'n creu protein (BDNF) ei ddarganfod. Mae'r protein yn chwarae rhan mewn nifer o brosesau'r ymennydd, gan gynnwys y cof.

Mae wedi ymchwilio i'r rôl mae BDNF yn ei chwarae yng ngwaith ymennydd iach ynghyd ag anhwylderau.

Yn ddiweddar mi wnaeth ei dim ym Mhrifysgol Basel ganolbwyntio ar sut all rhai cyffuriau gynyddu lefelau BDNF mewn rhannau penodol o'r ymennydd.

Mi wnaeth y gwaith ymchwil hwnnw helpu datblygu cyffuriau newydd - er enghraifft y driniaeth gyntaf trwy'r geg ar gyfer sglerosis ymledol.

Celloedd yr ymennydd

Dywedodd Athro Barde ei fod yn gobeithio datblygu ei ddiddordebau ymchwil presennol, sef defnyddio celloedd bonyn i ddeall sut mae'r ymennydd yn gweithio a hefyd ymchwilio clefydau iechyd meddwl megis iselder.

"Bydd peth o'r gwaith fyddai'n ymgymryd ag e yng Nghaerdydd ynglŷn â deall arwyddocâd y cysylltiad rhwng y system nerfau a chlefydau niwrolegol sy'n parhau'n ddirgel, yn arbennig ym maes iselder.

"Ond ar y cyd a nifer o grwpiau ymchwil rhagorol ym Mhrifysgol Caerdydd fy mwriad hefyd yw datblygu gwaith ymchwil yn defnyddio celloedd bonyn embryonig ac ail raglennu celloedd y corff i well dealltwriaeth o drafferthion niwrolegol.

"Mae hwn wir yn gyfnod cyffrous i mi, i ddatblygiadau mewn niwrobioleg ac i wyddoniaeth yng Nghymru."

Ymchwil y brifysgol

Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei hadnabod yn barod am ei gwaith ymchwil i gelloedd bonyn.

Canghellor y Brifysgol ac enillydd Gwobr Nobel, Syr Martin Evans, oedd y gwyddonydd cyntaf i adnabod celloedd bonyn embryonig, celloedd sy'n cael eu cymryd o embryo, fyddai'n gallu datblygu i nifer o fathau eraill o gelloedd, ac yna fyddai'n gallu cael eu haddasu ar gyfer amrywiaeth helaeth o ddibenion gwyddonol.

Er bod y gwaith ymchwil wedi profi'n hynod o werthfawr i ddeall nifer o glefydau, mae yna beth gwrthwynebiad i'r gwaith ymchwil am resymau moesoldeb.

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan yn credu y bydd y penodiad yn adeiladu ar gryfderau'r Brifysgol: "Mae'n dyst i gryfderau presennol y Brifysgol ym maes gwyddoniaeth niwrolegol a gwaith ymchwil celloedd bonyn, fod modd i ni ddenu gwyddonydd o statws yr Athro Barde.

Drwy weithio ag eraill yn ei faes fe fydd modd i Athro Barde helpu Prifysgol Caerdydd i fynd i'r afael a rhai o sialensiau iechyd mwyaf ein cyfnod."

Dywedodd Athro Ole Petersen FRS, Cyfarwyddwr yr Ysgol Biowyddorau wrth BBC Cymru:

"Rwy'n falch iawn o'r gobaith o fabwysiadu gwaith ymchwil diguro. Mae gwyddoniaeth yn fusnes rhyngwladol, mi welwch chi trwy Ewrop mai'r gwledydd sydd a mwyaf o ddoniau rhyngwladol sy'n llwyddo orau ym maes gwyddoniaeth. Ac mi rydan ni wedi denu un o'r sêr mwya' pwysig."

Sêr Cymru

Mae Sêr Cymru yn gynllun gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwaith ymchwil gwyddonol o safon fyd eang yng Nghymru.

Mae £50miliwn wedi'i neilltuo er mwyn denu gwyddonwyr adnabyddus i Gymru ac adeiladu ar y rhwydweithiau ymchwil ym meysydd gwyddor bywyd, peirianneg flaengar ac ynni carbon isel a'r amgylchedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.