Stevens yn sgorio 119 i rwystro Morgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC
Image caption Sgoriodd Darren Stevens 119 i rwystro Morgannwg

Sgoriodd Darren Stevens 119 wrth i Gaint frwydro i sicrhau gem gyfartal yn erbyn Morgannwg yn Cantenbury.

Dechreuodd y tîm cartref ar 254-4 gyda mantais o 11 i osgoi gorfod dilyn ymlaen. Ond fe sgoriodd Stevens 119 i rwystro buddugoliaeth i'r Cymry.

Mae Caint yn olaf ond un yn nhabl adran 2 a dal heb gael buddugoliaeth y tymor yma gyda'r gemau pedwar diwrnod, tra bod Morgannwg naw pwynt ar y blaen ac yn seithfed.