Shane Williams yn cael ei alw i garfan Y Llewod

  • 16 Mehefin 2013
Shane Williams
Bydd Shane Williams yn ymuno gyda'r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn ACT Brumbies ddydd Mawrth

Mae Shane Williams wedi cael ei alw i chwarae yn nhîm Y Llewod a hynny er ei fod wedi ymddeol o'r gêm ar y lefel rhyngwladol.

Fe fydd yn rhan o dîm Y Llewod ar gyfer y gêm ddydd Mawrth pan maent yn chwarae yn erbyn ACT Brumbies yn Canberra.

Roedd disgwyl i'r dyn 36 oed deithio i Awstralia i fod yn bwndit radio ar gyfer y 3 gem brawf rhwng Y Llewod ac Awstralia sydd yn cychwyn ddydd Sadwrn.

Ond bydd nawr yn ymuno gyda'r garfan am 48 awr gan gyrraedd ddydd Llun a gadael ddydd Mercher.

Mae'r chwaraewyr Lloegr Christian Wade a Brad Barritt hefyd wedi cael ei galw i fod yn y garfan.

Mae'r tri dyn wedi ei dewis am fod yna anafiadau gan y chwaraewyr eraill a bod yr hyfforddwyr yn awyddus i rhai cael gorffwys.

Dywedodd Warren Gatland, y prif hyfforddwr i'r Llewod: "Mae e mewn cyflwr reit dda. Mae e wedi bod yn bocsio hefyd, ond gobeithio bydd dim angen hynny ddydd Mawrth. Rydyn ni yn gwybod ei fod e yn ffit ac yn hyfforddi a dw i'n siŵr y deith e i mewn a gwneud job dda ohoni."