Amau ffitrwydd Roberts

  • 17 Mehefin 2013
George North a Jamie Roberts
Anaf tebyg sydd gan George North a Jamie Roberts

Newyddion cymysg ddaeth o wersyll carfan y Llewod am ffitrwydd dau o'r Cymry yn y garfan.

Mae amheuaeth a fydd George North a Jamie Roberts yn holliach ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn nesaf wedi i'r ddau gael anaf tebyg i linyn y gâr.

Fore Llun mae meddyg y garfan, James Robson, wedi bod yn siarad am ffitrwydd y ddau.

"Mae amheuaeth fawr am ffitrwydd Jamie ar gyfer y penwythnos, does dim dwywaith am hynny," meddai.

"Does ond rhaid i chi ei weld yn gadael y maes ddydd Sadwrn i weld hynny, ond fe fyddwn ni'n parhau i asesu'r anaf yn ddiweddarach yn yr wythnos."

Gadawodd George North y maes yn y gêm fore Mawrth diwethaf, ond roedd Mr Robson yn fwy calonogol am obeithion yr asgellwr.

"Mae George yn gymeriad neilltuol," meddai, "ac mae e wedi gweithio'n galed dros ben.

"Mae e yn ôl yn rhedeg heddiw, ac mae e'n gwneud yn dda iawn iawn.

"Fe fyddwn ni'n gwneud asesiad manwl o'i gyflwr ddydd Mercher, ond ar hyn o bryd mae e'n obeithiol."

Bydd y Llewod yn wynebu'r Brumbies yn Canberra fore Mawrth, ac fe fydd y prif hyfforddwr Warren Gatland yn cyhoeddi ei dîm ar gyfer y prawf cyntaf fore Iau.