Beth yw gwerth Cymru?

  • 24 Mehefin 2013
Rhoi Gwerth ar Gymru
Iolo Cheung sydd wedi ceisio ateb y cwestiwn: Beth yw gwerth Cymru?

Does dim dwywaith bod Cymru, fel pob rhan o'r DU, wedi wynebu amryw o broblemau economaidd difrifol yn ddiweddar.

Ond beth yw'r darlun ehangach o edrych ar yr ystadegau?

Mae ffigyrau twf GDP, sydd yn dangos faint mae'r economi wedi tyfu neu grebachu yn y tri mis diwethaf, yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i fesur cryfder yr economi.

Yn anffodus does dim ffigyrau penodol ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd ond mae 'na ffigyrau eraill y gellid eu defnyddio.

Diweithdra

Cododd canran y di-waith yn sylweddol yn 2008, gan barhau'n weddol gyson ers hynny. Mae'r gyfradd yng Nghymru ychydig yn uwch na gweddill y DU.

Mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat wedi rhannu'r colledion ers 2008 - ond nid yw hyn yn adrodd y darlun llawn.

Fel y gwelir yn y tabl isod, roedd nifer y gweithwyr sector cyhoeddus yn parhau i godi tan 2009, cyn disgyn yn gyson wedi hynny. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y sector preifat, gyda chwymp sylweddol yn 2009 ond cynnydd cyson ers hynny.

Blwyddyn Nifer gweithwyr sector cyhoeddus Nifer gweithwyr sector preifat
2008 342,000 997,000
2009 353,000 937,000
2010 349,000 943,000
2011 338,000 959,000
2012 334,000 973,000

A yw'r sector preifat felly'n allweddol ar gyfer achub economi Cymru? Ar y llaw arall, ai'r colledion yn y sector cyhoeddus sy'n gyfrifol am y diffyg twf dros y pum mlynedd diwethaf? Mae'n debygol bod elfen o wirionedd i'r ddau.

Gwaith

Dyw pethau ddim yn fêl i gyd i'r rheiny sydd mewn swyddi chwaith. Mae cyflogau wythnosol wedi bod yn codi - o £498.20 yr wythnos yn 2008, i £520.70 yn 2012. Ond mae'n llai na lefel chwyddiant, sef y cynnydd ym mhrisiau bwyd a nwyddau, gan olygu nad yw'r arian ym mhocedi pobl wedi bod yn mynd mor bell ag o'r blaen.

Cyflogau wythnosol
Graff yn dangos cyflogau wythnosol cyfartalog yng Nghymru yn 2007

O'i gymharu â rhannau eraill y DU, mae'r sefyllfa wedi dirywio. Yn 2008 roedd cyflogau wythnosol Cymru'n uwch na Gogledd Iwerddon a gogledd ddwyrain Lloegr, ond bellach mae ganddi'r lefel isaf o holl ranbarthau'r DU.

Ardaloedd Cymru

O edrych ar faint o arian sydd gael bobl yn weddill i'w wario bob blwyddyn ar ôl trethi, mae'r cyfartaleddau ar draws Cymru'n amrywio.

Mae'r ffigyrau wedi cael eu haddasu er mwyn ystyried effaith chwyddiant.

Y de orllewin yw'r ardal â'r lefelau isaf yng Nghymru, er bod y gogledd a'r de ddwyrain wedi gweld cwymp. Ar y llaw arall, mae'r canolbarth - Powys yn benodol - wedi gweld cynnydd er gwaetha'r dirwasgiad.

Arian gwario
Mae'r graff hwn yn dangos yr amrywiaeth o ran arian gwario pobl ers 2006

Wrth gwrs, gall amryw o ffactorau - megis costau byw lleol a chyflogau - fod yn gyfrifol am y gwahaniaethau.

Ond mae'n sicr yn awgrym nad yw pob rhan o Gymru yn rhannu'r problemau economaidd i'r un raddfa.

Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Cymru'n hanesyddol wedi bod â chyfradd ychydig yn uwch o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus - rydym eisoes wedi gweld bod rhai o'r swyddi yma wedi cael eu colli'n ddiweddar.

Gwariant gwasanaethau y pen
Mae'r uchod yn dangos faint sy'n cael ei wario ar wasanaethau ar gyfer pob person

Caiff hyn ei adlewyrchu yn y ffigyrau ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

O ddata PESA, a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU, gellir gweld fod y gwariant wedi dechrau arafu. Mae'n cael effaith ar sawl agwedd o'r economi, gan gynnwys swyddi, buddsoddiadau trafnidiaeth ac adeiladu, a chyfleusterau sydd ar gael i'r cyhoedd.

Busnesau

Yn olaf, sut mae busnesau Cymru wedi ymdopi â'r trafferthion economaidd diweddar?

Gwelir fod nifer y busnesau newydd wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, tra bod y nifer sydd wedi dod i ben yn codi. Ers 2009, mae mwy o fusnesau wedi cau pob blwyddyn na sydd wedi cychwyn.

Busnesau'n agor a chau
Dyma faint o fusnesau sydd wedi bod yn agor ('geni') a chau ('marw') dros y blynyddoedd diwethaf

Ond mae arwyddion o welliant i'w weld o'r graff hefyd, gyda ffigyrau'n dangos cynnydd yn nifer y busnesau newydd yn 2011.

Casgliad

Darlun bras yw hyn o sefyllfa economaidd Cymru heddiw ond mae'n amlwg nad yw'r trafferthion economaidd ar ben o bell ffordd. Mae diweithdra'n parhau'n uchel, tra bod cyflogau ac arian gwario'n parhau i ostwng. Mae gwariant cyhoeddus hefyd wedi arafu.

Ond, ar y llaw arall, mae'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau'n parhau i leihau. Yn ogystal, mae nifer y busnesau yng Nghymru, a phobl a gyflogir yn y sector preifat, yn cynyddu.

Mae arwyddion, felly, nad yw pethau mor wael â hynny.