Shane: Beirniadu penderfyniad Gatland

  • 17 Mehefin 2013
Shane Williams
Chwaraeodd Shane Williams ei gêm ddiwethaf i'r Llewod yn Ne Affrica yn 2009

Mae yna ddadlau wedi dechrau am y penderfyniad i alw Shane Williams i mewn i garfan rygbi'r Llewod ar gyfer y gêm ddydd Mawrth yn erbyn y Brumbies.

Cafodd cyn asgellwr y Gweilch a Chymru, a ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 2011, ei alw i mewn oherwydd anafiadau i chwaraewyr eraill yn y garfan.

Ond mae un sylwebydd rygbi wedi cyhuddo Warren Gatland o "fychanu'r ddelwedd o gael eich dewis i'r Llewod".

Dywedodd Gary Samuel - sylwebydd a chyn hyffordd Caerdydd - bod y penderfyniad yn un rhyfedd.

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Llun dywedodd Mr Samuel:

"Yn bersonol rwy'n credu eu bod nhw wedi bychanu'r ddelwedd o gael eich dewis i'r Llewod.

"Dywedodd Gatland ar ôl y Chwe Gwlad y bydde fe'n dewis chwaraewyr sydd wedi chwarae orau, a nawr mae e wedi mynd yn ôl ar ei air.

"Beth am yr asgellwyr sydd wedi ymarfer yn galed a chwarae'n galed - beth maen nhw'n teimlo nawr yn gweld rhywun sydd heb chwarae rygbi rhyngwladol am bron ddwy flynedd yn cael ei ddewis o'u blaen nhw?"

'Creu penwadau'

Roedd yr alwad wedi bod yn gryn syndod i Shane Williams ei hun fel y bu'n dweud wrth Gareth Charles yn Awstralia. Dywedodd:

"Diwrnod yn ôl ro'n i'n aros i hedfan mas yma i weithio, a'r peth nesaf ma Rob Howley ar y ffôn yn gofyn i fi chwarae yn erbyn y Brumbies i'r Llewod.

"O'n i byth yn meddwl y bydden i'n cael cyfle arall.

"Dwi jyst yn meddwl am y gêm gyntaf - paratoi'n dda heno a gwneud yn siŵr mod i'n deall popeth er mwyn roi 100% ar y cae."

Ond roedd Gary Samuel yn credu bod y penderfyniad yn dibrisio'r daith i'r Llewod, ac ychwanegodd:

"Mae'n creu diddordeb a phenawdau papur newydd, ond a yw cyllid y Llewod wedi mynd i lawr cymaint fel bod dim digon o arian ar gael i hedfan rhywun mas yna?

"Beth tase Shane yn seren y gêm yfory? Yw Gatland yn mynd i'w ddewis e ar gyfer y gêm brawf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn?"

Bydd y Llewod yn herio'r ACT Brumbies yn Canberra ddydd Mawrth, ac fe fydd Warren Gatland yn enwi'r garfan ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia fore Iau.