Yr Economi: Pleidiau'n dweud eu dweud

Cynulliad
Image caption Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn grant bloc o tua £15bn y flwyddyn

Ar gais Newyddion Ar-lein, mae'r pedair plaid sydd ag Aelodau Cynulliad wedi amlinellu eu syniadau nhw ynglŷn â sefyllfa'r economi yng Nghymru.

Buddsoddi

Dywed Edwina Hart, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru:

"Fel gweddill y Deyrnas Unedig, mae'r economi'n dal i geisio dod ati'i hun ar ôl y dirwasgiad. Nid yw polisi ariannol Llywodraeth y DU wedi helpu'r broses serch hynny, oherwydd toriadau oedd yn rhy gyflym ac yn rhy ddwfn.

"Mae'r IMF wedi ategu hynny.

"Fodd bynnag, rydym yn gweithio'n galed i gryfhau'r economi trwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau ac arloesedd a chreu'r amodau lle gall y sector preifat dyfu a ffynnu.

"Dros y 12 mis diwethaf, mae cyfraddau gwaith, diweithdra a gweithgarwch economaidd yng Nghymru i gyd wedi symud i'r cyfeiriad cywir ac wedi rhagori ar gyfartaledd y DU.

Diffyg

Nick Ramsay yw llefarydd busnes y Ceidwadwyr yn y Cynulliad:

"Y Ceidwadwyr Cymreig oedd yr unig blaid i fynd i mewn i'r etholiadau'r Cynulliad yn 2011 gyda rhaglen ddeddfwriaethol oedd yn cynnwys mesurau clir i sicrhau twf yn ein heconomi.

"Byddem wedi cyflwyno Mesur Menter i annog busnesau newydd ac yn helpu busnesau bach i ehangu - mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfau ar bynciau fel is-ddeddfau llywodraeth leol, ond nid yw wedi cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth i hyrwyddo entrepreneuriaeth neu ysgogi'r economi.

"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb enfawr a chreu'r amodau lle y gall y sector preifat dyfu."

'Gwan'

Alun Ffred Jones yw llefarydd busnes Plaid Cymru yn y Cynulliad:

"Dim ots ffordd rydych chi'n edrych arni, dros y 20 mlynedd ddiwethaf dydi'r economi'n Nghymru ddim wedi tyfu ar yr un raddfa a gweddill Prydain - mae hi mewn sefyllfa ddigon tebyg i ogledd ddwyrain, gogledd orllewin Lloegr ac un neu ddau o lefydd eraill, at ei gilydd mae'r economi'n wan felly.

"Be 'da ni wedi ddadle ers etholiad diwethaf yn gyson ydi bod yna rhai pethau dylid eu gwneud yn syth. Un o'r rheini fyddai sicrhau bod y diwydiant adeiladu yng Nghymru, cwmnïau yn cael stimiwlws a digon o waith...

"Rydan ni hefyd yn meddwl bod angen cynyddu nifer y canran contractau cyhoeddus sy'n dod i Gymru. mae bob 1% yn creu 2000 o swyddi, tasan ni yn cyrraedd lefel o 75%, sydd yn is na bron pob gwlad arall yn Ewrop, mi fyddan ni'n creu bron i 50,000 o swyddi."

'Cydbwysedd'

Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yw Eluned Parrott:

"Yn gyntaf oll, nid wyf yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi profi ei bod hi'n gallu hybu economi Cymru, ry'n ni wedi bod yn ar waelodion yr holl dablau cynghrair economaidd ar gyfer y degawd diwethaf.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru gael y cydbwysedd cywir o ddenu mewnfuddsoddiad o dramor a meithrin entrepreneuriaeth i dyfu gartref yng Nghymru.

"Nid wy'n credu ein bod ni erioed wedi taro'r cydbwysedd iawn a dyna'r hyn y byddai Llywodraeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei wneud.

"Byddem yn hyrwyddo Cymru fel gwlad ddeniadol i fuddsoddi ynddi, ond hefyd yn sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i dyfu."

Straeon perthnasol