Casnewydd yn dechrau tymor newydd

Casnewydd yn dathlu ennill dyrchafiad yn Wembley Image copyright PA/John Walton
Image caption Casnewydd yn dathlu ennill dyrchafiad yn Wembley

Ddydd Mercher bydd trefn gemau Cynghrair Bêl-droed Lloegr yn cael ei gyhoeddi'n llawn, ond i ddathlu pen-blwydd y gynghrair yn 125 oed maen nhw wedi cyhoeddi chwech o'r gemau fydd yn cael eu chwarae ar y diwrnod agoriadol ddiwrnod yn gynnar.

Yn eu plith mae gêm gyntaf Casnewydd wrth iddynt ddychwelyd i'r cynghrair wedi bwlch o dros chwarter canrif.

Y newyddion da i gefnogwyr yr Alltudion yw y byddan nhw'n chwarae eu gêm gyntaf adre' yn Rodney Parade.

Yr ymwelwyr fydd tîm arall a dreuliodd gyfnod hir allan o'r gynghrair - Accrington Stanley.

Bydd y gemau agoriadol yn cael eu chwarae ar benwythnos Awst 3 a 4.

Straeon perthnasol