Sêl bendith i waith asbestos

Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Image caption Mae'r gwaith yn golygu y gall yr ysgol fod yn barod i'w hailagor ym Medi

Mae llywodraethwyr ysgol wedi cytuno i Gyngor Sir Caerffili barhau â gwaith brys cael gwared ar asbestos fel y gall disgyblion ddychwelyd i'r ysgol erbyn mis Medi.

Fe drefniwyd y cyfarfod llywodraethol wedi i'r cyngor alw am ymateb cyflym er mwyn gallu cwblhau'r gwaith yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn erbyn diwedd y gwyliau haf.

Dywedodd y Cynghorydd Rhianon Passmore o'r cyngor: "Rwy'n siŵr y bydd yr ysgol gyfan yn hapus iawn fod 'na gytundeb ac y gall y gwaith fynd rhagddo o'r diwedd.

"Ond dyw amser ddim o'n plaid ac mae'n rhaid i ni weithredu'n gyflym i symud yr asbestos a gwneud y gwaith atgyweirio.

'Medi 2'

"Rydym yn anelu i gael y disgyblion yn ôl ar y safle erbyn Medi 2 ond i wneud hyn bydd yn rhaid defnyddio adeiladau dros-dro yn y tymor byr tra bod gwaith yn cael ei gwblhau tu mewn i'r ysgol.

"Mae'n rhaid i ni nawr ganolbwyntio ein hymdrechion ar symud ymlaen a sicrhau bod disgyblion a staff yn gallu dychwelyd i amgylchedd diogel, yn ôl yng nghalon y gymuned."

Dywedodd Gary Thomas, cadeirydd y llywodraethwyr: "Rydym yn edrych 'mlaen i weithio gyda'r cyngor i symud y cynllun yn ei flaen.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd dros y misoedd diwetha' wrth i ni geisio datrys y sefyllfa."

Yn Ebrill cytunodd y cyngor i gyfrannu £1 miliwn at waith glirio'r asbestos o'r ysgol.

Bydd y cyngor yn goruchwylio'r gwaith ac yn sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd i wneud y safle yn ddiogel.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.