Pwy fydd yn herio Cleverly?

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Nathan Cleverly yn wynebu Robin Krasniqi o Serbia ym mis Ebrill

Bydd y bocsiwr Nathan Cleverly yn amddiffyn ei goron WBO is-drwm y byd am y chweched tro yn Arena Motorpoint, Caerdydd, ar Awst 17.

Ond dyw hi ddim yn glir pwy yn union fydd ei wrthwynebydd.

Roedd Cleverly wedi cytuno mewn egwyddor i wynebu Sergey Kovalev o Rwsia.

Ond mae ffederasiwn yr IBF wedi gorchymyn gornest rhwng Kovalev a Bernard Hopkins yn sgil ei fuddugoliaeth dros Cornelius White ddydd Gwener.

Bydd rhaid i Kovalev benderfynu a yw am herio Cleverly yng Nghymru neu Hopkins yn yr Unol Daleithiau.

Yn ôl hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren, mae wedi cynnal trafodaethau ers dros fis gyda HBO sydd eisiau darlledu'r ornest.

Gwrthwynebydd arall?

Ond fe allai'r Cymro orfod dod o hyd i wrthwynebydd arall ar gyfer ei ail ornest yn yr arena yng Nghaerdydd.

"Roedden ni'n gobeithio gallu cyhoeddi gwrthwynebydd nesa' Nathan ar gyfer yr ornest ar Awst 17," meddai Mr Warren ddydd Mawrth.

"Roedden ni'n gobeithio mai Sergey Kovalev fyddai hwnnw. Roedden ni wedi cytuno ar delerau gyda HBO a ddaeth aton ni gyda'r ornest hon ym mis Mai.

"Yn wreiddiol roedden ni wedi bwriadu i'r ornest gael ei chynnal ym mis Gorffennaf.

"Gofynnwyd i ni symud honno'n ôl ac fe wnaethon ni hynny gan fod gan Kovalev ornest arall ddydd Gwener diwetha', ac fe symudwyd y dyddiad i Awst 10.

'Rhywun arall'

"Roedden ni wedi trefnu'r lleoliad ac wedyn gofynnwyd i ni newid y dyddiad i Awst 17.

"Dros y dyddiau diwetha' rydym wedi cael sgyrsiau am wneud cais am fisa i Kovalev ... Rwy'n gobeithio y cawn wybod heddiw a fydd Nathan yn ymladd Kovalev.

"Dyna'r ornest ry'n ni'n ei dymuno ond os nad yw e eisiau hi fe ddown ni o hyd i rywun arall."

Mae Kovalev, 30, yn un o'r cystadleuwyr cryfa' yng nghategori'r 168 pwys, wedi iddo guro ei bum gwrthwynebydd diwetha'.

Straeon perthnasol