Cymry ifanc yn y pedwar olaf

  • 18 Mehefin 2013
Jordan Williams
Un o ser ifanc Cymru yw'r cefnwr Jordan Williams o'r Scarlets

Mae hyfforddwr tîm rygbi dan-20 Cymru wedi cael ei orfodi i newid ei dîm yn hwyr oherwydd anaf.

Bydd Cymru'n herio De Affrica ym Mhencampwriaeth Ifanc y Byd yn y Stade de la Rabine, Vannes, Ffrainc yn ddiweddarach, a hynny yn y rownd gynderfynol.

Mae'r clo Carwyn Jones wedi cael anaf wrth ymarfer, ac mae Jack Jones yn cymryd ei le gyda James Benjamin yn llenwi'r bwlch ar y fainc.

Fe gurodd Cymru dan-20 Ariannin dan-20 o 25-20 i orffen ar frig grŵp C yn y gystadleiaeth ddydd Iau diwethaf.

Aeth Cymru i'r rownd gynderfynol y tymor diwethaf hefyd, ond mae'r hyfforddwr Danny Wilson yn benderfynnol o fynd un cam yn well y tro hwn.

"Rydym wedi cael golwg go dda ar Dde Affrica erbyn hyn," meddai Wilson, ac fe fydd gan ein pac lawer iawn o waith i wneud ddydd Mawrth.

"Maen nhw'n debyg i'r tîm llawn, sef pac trwm, ond mae ganddyn nhw hefyd dri o'r olwyr sy'n beryglus iawn ac fe fydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus.

"Rydym yn falch o gyrraedd y nod a osodon ni i ni'n hunain ar y dechrau, sef cyrraedd y pedwar olaf, ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto."

TÎM CYMRU DAN-20 v.DE AFFRICA DAN-20: Stade de la Rabine, Vannes, Ffrainc: Dydd Mawrth, Mehefin 18 am 5:15pm

15. Jordan Williams (Scarlets / Llanelli);

14. Ashley Evans (Gweilch/ Pen-y-bont);

13. Steffan Hughes (Scarlets / Llanelli);

12. Jack Dixon (Dreigiau);

11. Hallam Amos (Dreigiau/Casnewydd);

10. Sam Davies (Gweilch/Abertawe);

9. Rhodri Williams (Scarlets/ Llanymddyfri);

1. Gareth Thomas (Scarlets/ Cwins Caerfyrddin);

2. Ethan Lewis (Gleision/Caerdydd);

3. Nicky Thomas (Gweilch/Abertawe);

4. Jack Jones (Gweilch/Rovigo);

5. Rhodri Hughes (Gweilch/Abertawe);

6. Sion Bennett (Scarlets/ Caerfyrddin);

7. Ellis Jenkins (capten, Gleision/Caerdydd);

8. Ieuan Jones (Dreigiau/Casnewydd).

Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau/Bedwas), Thomas Davies (Gleision/Caerdydd), Dan Suter (Gweilch/Pen-y-bont), James Benjamin (Dreigiau/Bedwas), Daniel Thomas (Scarlets/ Llanelli), Joshua Davies (Dreigiau/Bedwas), Aaron Warren (Llanymddyfri), Thomas Pascoe (Gleision/Pontypridd).