Teyrnged i ddyn 21 oed

Mae mam wedi talu teyrnged i'w mab 21 oed a fu farw mewn damwain car ddydd Llun.

Cafodd Kieran Arnold o Cymau ger Wrecsam ei ladd ar yr A541 rhwng Pontblyddyn a Chaergwrli pan bu gwrthdrawiad rhwng ei fan Ford Transit a Land Rover Discovery arian.

Mae dyn lleol 47 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus.

Colled

Mae mam Kieran wedi ei ddisgrifio fel 'mab gwych' a 'brawd mawr cariadus' yw frodyr Aaron a Steffan.

Dywedodd ei fod yn hoffi codi pwysau ac yn mwynhau bob math o chwaraeon: "Roedd pobl gyda meddwl uchel ohono yn y gwaith lle roedd yn gweithio fel plymwr ac roedd yn weithiwr caled oedd gydag uchelgais ac yn ymgeisio i ddechrau busnes ei hun.

"Roedd Kieran yn ddyn ifanc golygus oedd yn treulio rhan fwyaf o'i amser gyda'i gariad Lizzie. Mae Kieran yn drasig wedi ei gymryd oddi wrthon ni yn 21 oed ac mi fydd bob aelod o'r teulu yn ei golli yn fawr."

Mae Heddlu'r Gogledd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y ddamwain ac yn gofyn i bobl sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 gan roi'r cyfeirnod 13095250.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.