Y Llewod: George North yn holliach i chwarae

George North
Mi fydd George North ar gael i chwarae ddydd Sadwrn

Mi fydd yr asgellwr o Gymru George North yn holliach i chwarae'r prawf cyntaf i dîm y Llewod yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Mae'r dyn 21 oed wedi colli'r ddwy gêm ddiwethaf yn dilyn anaf i linyn y gar. Ond mae Rob Howley, sydd yn hyfforddwr cynorthwyol gyda'r Llewod yn dweud ei fod yn ffit ac yn barod i chwarae os caiff ei ddewis. Ychwanegodd, "Dw i erioed wedi ei weld mewn cystal siâp."

Dyw hi ddim yn debygol fodd bynnag y bydd Jamie Roberts ar gael i chwarae am ei fod wedi cael anaf i'w goes.

Fe gollodd Y Llewod yn erbyn ACT Brumbies ddydd Mawrth, y tro cyntaf iddyn nhw golli yn erbyn tîm taleithiol ers 1997.