Damwain 3 cerbyd: dau yn yr ysbyty

Mae dau o bobl yn yr ysbyty yn dilyn damwain ddifrifol rhwng 3 cerbyd yn Nhonypandy.

Bu'n rhaid i un dyn gael ei achub o'i gar gan y gwasanaeth tân.

Digwyddodd y ddamwain am 9.13 fore Mercher.

Mae ffordd yr A4119 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfro Court Road a Threwiliam.