Cynghorau'n methu â chasglu £15.1m o ddyledion treth

  • 5 Medi 2013
Arian
Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Fe roddodd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru y gorau i geisio casglu gwerth £8.5 miliwn o ardrethi busnes a £6.6 miliwn o dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Roedd hynny oherwydd dileu dros 32,000 o ddyledion unigol treth gyngor a thros 3,000 o ddyledion unigol ardrethi busnes.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r "rhan helaeth o'r symiau sy'n ddyledus yn cael eu casglu'n brydlon", ond yn ôl Cynghrair y Trethdalwyr "ni all awdurdodau lleol fforddio i beidio â chasglu cymaint o dreth".

Mae'r dyledion treth gyngor a gafodd eu dileu yn amrywio o £1.2 miliwn yng Nghaerdydd i £43,000 yn Sir Benfro.

Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

£2 biliwn

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyllid ac adnoddau: "Pob blwyddyn mae cynghorau Cymru yn casglu bron £2 biliwn mewn treth gyngor ac ardrethi busnes.

"Mae cynghorau Cymru'n casglu, ar gyfartaledd, tua 97% o'r ddwy dreth hyn o fewn y flwyddyn y maent yn ddyledus.

"Dros gyfnod y mae mwy na 98.5% o'r holl ddyledion yn cael eu casglu".

Yn ôl Cyngor Abertawe, y prif resymau dros ddileu dyledion yw methdaliad dyledwyr, methu olrhain dyledwyr, rhwymedigaethau sy'n destun dadl a sefyllfa lle nid yw'n gost effeithiol mynd ar drywydd dyledion gwerth isel iawn.

98.5%

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffigwr o £1.2m a ddiystyrwyd mewn treth gyngor a £2.1m o ardrethi busnes yn 2012/13 yn llai na 1.5% o'r arian a filiwyd yn ystod y flwyddyn honno.

"Fel prifddinas Cymru rydym yn casglu dros 98.5% o swm y dreth gyngor ac ardrethi busnes a gaiff eu bilio yn y ddinas.

"Cyn diystyru taliad mae nifer o'r dyledion hyn yn destun camau cyfreithiol am ddiffyg talu ac mae beilïod yn cael eu defnyddio'n helaeth i geisio casglu trethi.

"Diystyru dyled yw'r dewis olaf i'r cyngor bob tro, pan fo pob opsiwn arall wedi'i ystyried gan gynnwys defnyddio asiantau canfod a chamau methdalu."

Mae ardrethi busnes hefyd yn cael eu galw'n ardrethi annomestig. Mae'r holl ardrethi busnes yn cael eu casglu a'u talu i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru. Maent wedyn yn cael eu rhoi'n ôl i awdurdodau lleol fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.

'Cadw trethi yn isel'

Yn ôl Robert Oxley ar ran Cynghrair y Trethdalwyr: "Dylai cynghorau ei wneud yn haws i'r rhai sy'n ei chael yn anodd trwy gadw trethi yn isel tra'n mynd ar ôl y rheiny sy'n fwriadol yn osgoi talu".

Ym mlwyddyn ariannol 2011/12 rhoddwyd y gorau i geisio casglu gwerth £9.6 miliwn o ardrethi busnes a £5.4 miliwn o dreth gyngor.

Dyledion wedi eu dileu ym mlwyddyn ariannol 2012-13
Cyngor Cyfanswm Treth Gyngor (£) Dyledion unigol Treth Gyngor Cyfanswm Ardrethi Busnes (£) Dyledion Unigol Ardrethi Busnes
Abertawe 303,000 764 670,000 131
Blaenau Gwent 396,343 1,621 12,411 15
Bro Morgannwg 161,275 1,304 176,903 54
Caerdydd 1.2 miliwn 3,470 2.1 miliwn 226
Caerfyrddin 414,110 1,319 404,363 180
Caerffili 292,893 3,146 502,304 227
Casnewydd 596,567 2,827 630,281 183
Castell-nedd Port Talbot 102,924 721 51,075 32
Ceredigion 94,396 1,172 100,736 65
Conwy 128,475 901 146,600 98
Dinbych 284,664 2,012 254,741 448
Fflint 367,306 1,996 302,269 248
Gwynedd 272,000 529 405,000 273
Merthyr Tudful 76,593 261 143,642 23
Mynwy 141,662 1,086 297,262 128
Penfro 43,436 282 95,951 26
Pen-y-bont ar Ogwr 226,971 1,048 657,191 239
Powys 157,225 1,554 157,731 73
Rhondda Cynon Taf 309,000 2,514 418,000 239
Torfaen 103,034 727 273,500 44
Wrecsam 804,000 3,180 660,713 201
Ynys Môn 133,134 248 26,126 30
Cyfanswm i Gymru 6,609,000 32,682 8,486,799 3183