Y Llewod: 8 Cymro i herio Awstralia

Llewod
Image caption Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn herio Awstralia ddydd Sadwrn

Bydd 8 Cymro yn nhîm Y Llewod ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia dydd Sadwrn.

Leigh Halfpenny fydd y cefnwr ar ol ei berfformiad campus e yn erbyn y Waratahs y Sadwrn diwethaf.

Mae pedwar Cymro arall ymhlith yr olwyr. Bydd Alex Cuthbert a George North ar yr esgyll, Jonathan Davies yn y canol a Mike Phillips fydd y mewnwr.

Er gwaetha'r holl ddyfalu, mae Sam Warburton yn cadw ei le ac fe fydd y capten. Y ddau flaenwr arall o Gymru fydd Alun Wyn Jones yn yr ail reng ac Adam Jones, y prop pen tyn.

Mae'r ddau flaenwr Richard Hibbard a Dan Lydiate ymhlith yr eilyddion.

Y Llewod: 15-Leigh Halfpenny (Cymru), 14-Alex Cuthbert (Cymru),

13-Brian O'Driscoll (Iwerddon), 12-Jonathan Davies (Cymru),

11-George North (Cymru), 10-Jonathan Sexton (Iwerddon), 9-Mike

Phillips (Cymru), 8-Jamie Heaslip (Iwerddon), 7-Sam Warburton

(Cymru, capten), 6-Tom Croft (Lloegr), 5-Paul O'Connell (Iwerddon),

4-Alun Wyn Jones (Cymru), 3-Adam Jones (Cymru), 2-Tom Youngs

(Lloegr), 1-Alex Corbisiero (Lloegr).

Eilyddion: 6-Richard Hibbard (Cymru), 17-Mako Vunipola

Lloegr), 18-Dan Cole (Lloegr), 19-Geoff Parling (Lloegr),

20-Dan Lydiate (Cymru), 21-Ben Youngs (Lloegr), 22-Owen Farrell

(Lloegr), 23-Sean Maitland (Yr Alban).