Ar Gyngor Mawr y Dre

Ychydig fisoedd yn ôl ei i weld "Dyled Eileen" - cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn olrhain hanes teulu'r Beasleys a'i ymdrech i sicrhau bil treth Cymraeg. Fe wnes i fwynhau'r ddrama'n fawr ond roedd gen i un gwyn bach. Doedd yr awduron ddim wedi llwyr ddeall y gyfundrefn lywodraeth leol oedd yn bodoli ar y pryd gan ddrysu rhwng gwahanol fathau o gynghorau.

Dyw hynny ddim yn syndod. Smonach oedd llywodraeth leol Cymru cyn 1973. Roedd y smonach wedi para am bron i ganrif ond smonach oedd hi serch hynny.

Roedd gan Gymru gynghorau ar gyfer ei siroedd, bwrdeistrefi sirol, dosbarthiadau trefol, dosbarthiadau gwledig a'i hunig ddinas swyddogol. Ar ben hynny oherwydd anomoli rhyfedd roedd ganddi bron i saith gant o gynghorau wedi ei seilio ar blwyfi'r Eglwys yng Nghymru er bod yr enwad hwnnw wedi colli ei statws fel eglwys wladwriaethol degawdau cyn hynny.

O bedwardegau'r ganrif ddiwethaf ymlaen cafwyd galwadau am adrefnu'r system. Yr un oedd yr ateb bob tro. Roedd y gyfundrefn yn llanast ond fe fyddai ei hadrefnu yn gymhleth a chostus. Nid nawr oedd yr adeg iawn. Mae hynny'n swnio'n gyfarwydd iawn i ni heddiw.

Y Ceidwadwr Peter Thomas wnaeth weithredu yn y diwedd gan gyflwyno cyfundrefn o wyth cyngor sir a thrideg saith o gynghorau dosbarth a hynny yn 1973. Fe oroesodd y cynghorau plwyf ar ôl eu hail-fedyddio'n gynghorau cymuned.

Y Swyddfa Gymreig wnaeth ddewis enwau'r siroedd ond dyletswydd gyntaf y cynghorwyr dosbarth oedd bedyddio eu cynghorau. Roedd rhai o'r dewisiadau yn well na'i gilydd.

Cafwyd dryswch cyson rhwng "Afan" Cymru ac "Avon" Lloegr a neidiwyd enw'r cyngor Cymreig i Bort Talbot.

Lan yn Llŷn ac Eifionydd cafwyd pendroni hir cyn penderfynu mai "Deufor" fyddai enw'r cyngor newydd i adlewyrchu'r ffaith bod tonnau Bae Ceredigion a Môr Iwerddon yn torri ar y traethau. Does neb yn gwybod hefyd heddiw pwy oedd y clerc wnaeth newid yr enw i Ddwyfor yn y gred bod camgymeriad wedi bod ar ôl sylwi bod afon â'r enw yna yn llifo trwy'r ardal.

Yn y de-ddwyrain y cafwyd y dewis mwyaf rhyfedd. Doedd na ddim enw amlwg i'r dosbarth nwydd oedd yn cynnwys Risga, Y Coed Duon a Phontllanfraith. Roedd "Gorllewin Gwent" a "Sirhywi" ymhlith y cynigion ond yn y pendraw penderfynwyd anrhydeddu un o feibion yr ardal sef y bardd Fictoraidd Islwyn. Mae 'na Fynydd Islwyn yn yr ardal ond ar ôl y bardd nid y mynydd yr enwyd y cyngor.

Afraid yw dweud efallai nad oedd un Cymro Cymraeg yn aelod o'r cyngor a neb felly'n gallu awgrymu'n garedig nad oedd Islwyn yn gymaint o fardd ac oedd y cynghorwyr yn credu. Mae Islwyn wrth gwrs yn parhau hyd heddiw fel enw ar etholaeth.

Heddiw mae aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol yn cwrdd â'r posibilrwydd o adrefnu arall eto ar wefusau pawb.

Un cais sy gen i. Gadewch i'r cynghorau newydd ddewis eu henwau. Fe gawn ni sbort!