Rhybudd am newidiadau cyfreithiol

Morthwyl
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwadu y bydd y newidiadau'n cael effaith andwyol ar y Gymraeg

Gallai'r newidiadau i'r system gyfiawnder gael effaith negyddol ar y gwasanaeth mae amddiffynion yn ei dderbyn - dyna yw'r neges gan dros 30 o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru.

Mae'r cwmnïau, sy'n rhai annibynnol Cymreig, yn ymuno a'i gilydd i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau arfaethedig i'r system gymorth gyfreithiol.

Maen nhw'n honni y byddai'r newidiadau yn gwaethygu'r gwasanaeth mae diffynyddion yn ei dderbyn oherwydd na fydd ganddyn nhw'r hawl i ddewis pwy sy'n eu cynrychioli.

Ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud y bydd cyfreithwyr proffesiynol yn dal i gael eu darparu ar gyfer unrhywun sydd eu hangen.

Yn ystod dydd Gwener bydd y cwmnïau yn cynnal sesiynau mewn Llysoedd y Goron a'r Ynadon er mwyn siarad gyda phobl am yr effaith gallai'r newidiadau gael.

Newidiadau

Mae'r llywodraeth eisiau torri £220m o gyllideb flynyddol cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr - mae cyfiawnder troseddol wedi ei ddatganoli yng ngogledd Iwerddon a'r Alban.

Mae cymorth cyfreithiol yn costio tua £2 biliwn pob blwyddyn ac mae amddiffyn troseddol yn gyfrifol am hanner y gwariant hwnnw.

Yn ôl Llywodraeth Prydain mae'r system yn un o'r rhai drytaf yn y byd.

Maen nhw eisiau gweld llai o sefydliadau mawr yn darparu cymorth cyfreithiol.

Dywedodd Tony Williams, partner efo'r cwmni cyfreithiol JNP Legal sydd wedi ei leoli'n Merthyr: "Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei gael yn isel iawn ac mae pobl i weld yn credu eu bod nhw ond yn berthnasol i'ch troseddwr ystrydebol.

"Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir - gallai unrhyw un ddarganfod eu hunain yn dioddef cyhuddiadau ffug ac felly'n sydyn angen cymorth cyfreithiol. Dyma pam mae angen brwydro yn erbyn y newidiadau.

"Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru. O dan y cynigion newydd, ni fydd unrhyw reidrwydd cytundebol ar gwmnïau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, felly ni fydd rhai pobl yn gallu cael eu cynrychioli yn yr iaith o'u dewis nhw.

"Nid yw'r newidiadau yn cymryd i ystyriaeth ein daearyddiaeth penodol a demograffig sy'n golygu bod rhannau helaeth o'r wlad yn dod o dan un maes caffael."

'Drytaf yn y byd'

Ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwadu y byddai'r newidiadau yn cael effaith andwyol ar y gwasanaeth mae pobl yn ei dderbyn yn y llysoedd.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Bydd cwmnïau cyfreithiol sy'n darparu gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu gorfodi i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

"Mae'r system bresennol yn costio £2 biliwn y flwyddyn - mae gennym un o'r systemau cymorth cyfreithiol drytaf yn y byd.

"Ar adeg o heriau ariannol mawr - sy'n cael eu teimlo gan fusnesau a chartrefi ledled y wlad - ni all y sector cyfreithiol gael ei heithrio o ymrwymiad y llywodraeth i gael gwell gwerth am bob ceiniog o arian trethdalwyr a wariwn.

"Yn sgil ein cynigion, byddai cyfreithwyr proffesiynol yn dal i fod ar gael i unrhyw un sydd angen cyngor neu sy'n cael ei gyhuddo o drosedd, yn union fel y mae pethau nawr."