Pump yn ffeinal Canwr y Byd

Moldova's Valentina Nafornita was a pop singer before she discovered opera Image copyright bbc
Image caption Valentina Nafornita o Moldova oedd yr enillydd yn 2011

Mae pump o gantorion yn rownd derfynol cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni.

Y cantorion fydd yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant yw Jamie Barton o America, Marko Mimica sy'n hanu o Groatia, Olena Tokar o'r Wcráin, Daniela Mack o'r Ariannin a Teresa Romano o'r Eidal.

Bydd yr enillydd yn derbyn £15,000 a thlws Caerdydd a bydd sylwebaeth fyw o'r perfformiadau ar Radio Cymru a Radio Wales.

Dyw Gary Griffiths o Benbre yn Sir Gâr ddim wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Fe fu 400 o glyweliadau ac fe gafodd 20 o'r rhain eu dewis i berfformio yng Nghaerdydd.

Bydd y pump yn canu ar Fehefin 23.

Y beirniaid yw noddwr y gystadleuaeth, y Fonesig Kiri Te Kanawa, y Fonesig Felicity Palmer, Neil Shicoff, Bernd Weikl, Maren Hofmeister, Per Boye Hansen a'r cadeirydd Nicholas Payne.

30 oed

Eleni mae'r ŵyl yn 30 mlwydd oed. Y soprano o'r Ffindir Karita Mattila enillodd y gystadleuaeth gyntaf.

Fe gychwynnodd yn 1983 a chyn Bennaeth BBC Cymru, Geraint Stanley Jones a J Mervyn Williams feddyliodd am y syniad.

Mae Canwr y Byd yn digwydd bob yn ail flwyddyn ac mae mwy o fanylion am y gystadleuaeth ar wefan arbennig.

Yr enillydd yn 2011 oedd Valentina Naforniţa o Foldova.

Straeon perthnasol