Morgannwg yn brwydro'n ôl

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC
Image caption Doedd y sefyllfa ddim yn rhy dda i Forgannwg erbyn amser cinio'r ail ddiwrnod

Mae Morgannwg yn ceisio brwydro'n ôl ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerwrangon.

Daeth y tîm cartref â'u batiad cyntaf i ben ar ôl cyrraedd 505 am 7 wiced gyda Moeen Ali'n sgorio 250 a Matthew Pardoe 102.

Wrth ymateb fe aeth Morgannwg o bob math o drafferthion ac ar un cyfnod roedden nhw'n 98 am 5 wiced.

Ond cyn diwedd y chwarae ddydd Gwener roedd Jim Allenby a'r capten Mark Wallace wedi creu partneriaeth o bwys.

Cyn diwedd y diwedd roedd Allenby wedi pasio'i hanner cant, ac roedd yntau a Wallace wedi llywio'r cyfanswm i 164 heb golli mwy o wicedi.

Mae'r tîm cartref yn ffefrynnau o hyd, ond fe allai'r tywydd ddod i achub Morgannwg rhag colli eto os fyddan nhw'n medru aros ar y sgwâr yn ddigon hir i osgoi gorfod batio eto yn syth.

Sgôr ddiweddaraf (diwedd yr ail ddiwrnod):

Sir Gaerwrangon (batiad cyntaf) - 505 am 7 wiced (dod â'r batiad i ben)

Morgannwg (batiad cyntaf) - 164 am 5 wiced