Gwasanaeth i gofio cau pwll glo

Parc Treftadaeth y Rhondda Image copyright Martin William Vaughn
Image caption Wedi i'r pwll gau yn 1983 dechreuodd y gwaith o greu Parc Treftadaeth y Rhondda ar y safle yn 1985

Bydd gwasanaeth arbennig ddydd Sadwrn i goffáu 30 mlynedd ers cau pwll glo yng nghymoedd y de.

Daeth cau pwll Lewis Merthyr/Tŷ Mawr â dechrau y diwedd i'r diwydiant glo yn yr ardal yn 1983.

Erbyn 1990 doedd yr un pwll dwfn yn dal ar agor ym maes glo'r de.

Bydd gwasanaeth i nodi'r achlysur ym Mharc Treftadaeth y Rhondda ger Pontypridd, ac fe fydd plac yn cael ei ddadorchuddio gan faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Anne Cummings, i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ym maes glo'r de.

Y Parchedig David Sheen fydd yn arwain y gwasanaeth am hanner dydd, ac i ddilyn fe fydd perfformiadau gan Fand Pres Lewis Merthyr a Chôr Meibion Morlais.

Mae'r digwyddiad yn agored i bawb ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Yn ogystal bydd llyfr gan Wasg Prifysgol Cymru yn cael ei lansio yn y digwyddiad, sef The South Wales Miners: 1964-1985 gan Dr Ben Curtis.

Hefyd bydd arddangosfa arbennig yng nghanolfan ymwelwyr Parc Treftadaeth y Rhondda o faneri cyfrinfeydd y glowyr a fydd yn rhoi darlun diddorol o hanes y maes glo a threftadaeth lofaol Cwm Rhondda a thu hwnt.

Dywedodd Nicola Newhams o Barc Treftadaeth y Rhondda: "Mae diwrnod Lewis Merthyr yn un o uchafbwyntiau ein calendr digwyddiadau.

"Mae digwyddiad eleni yn debyg o fod yn gofiadwy dros ben wrth i bobl ddod at ei gilydd i gofio 30 mlynedd ers i byllau glo gau ar y safle yma."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.