Cleverly i herio Kovalev yng Nghaerdydd

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Enillodd Cleverly yn erbyn Robin Krasniqi ym mis Ebrill

Bydd pencampwr bocsio is-drwm y WBO Nathan Cleverly yn amddiffyn ei deitl yn erbyn Sergey Kovalev o Rwsia yng Nghaerdydd ar Awst 17.

Bydd yr ornest yn digwydd yn arena Motorpoint yn y brifddinas.

Llwyddodd y Cymro i gadw'r teitl gyda buddugoliaeth ar bwyntiau dros Robin Krasniqi ym mis Ebrill, gan ymestyn ei record ddi-guro i 26 gornest.

Roedd Cleverly wedi cytuno mewn egwyddor i wynebu'r Rwsiad, ond fe orchmynnodd yr IBF y dylai deiliad eu teitl nhw Bernard Hopkins i ymladd yn erbyn Kovalev.

Ond mae Kovalev wedi penderfynnu wynebu Cleverly yng Nghaerdydd yn gyntaf yn hytrach na herio Hopkins yn yr Unol Daleithiau.

Nod Cleverly yw uno'r teitlau is-drwm drwy guro Hopkins o'r IBF a phencampwr y WBA Beibut Shumenov.

Mae e hefyd wedi dweud y byddai'n ystyried gornest yn erbyn pencampwr uwch-ganol IBF y byd, y Sais Carl Froch, pe bai yntau'n dewis codi i'r adran bwysau uwch.

Dywedodd Cleverly bod ei ymdrechion i ddenu un o'r enwau mawr wedi bod yn rhwystredig.

"Rwy'n ffit ac yn barod i herio unrhyw un yn yr adran is-drwm," meddai, "ond rwyf wedi galw ar rai o'r enwau mawr ac maen nhw wedi gwrthod.

"Rydym yn gwneud ein gorau i greu'r gornestau mawr yma, ond yn anffodus dydyn nhw ddim yn digwydd ac rwy'n gorfod wynebu'r ymladdwyr yma sydd heb unrhyw beth i'w golli.

"Dyna pam y mae'n rhaid i mi fod yn wyliadwrus a gwneud fy ngorau bob tro."

Straeon perthnasol