Cymru'n barod am gêm derfynol dan 20

  • 23 Mehefin 2013
Rhodri Williams
Rhodri Williams yn chwarae i'r Scarlets

Bydd tîm rygbi Cymru Dan 20 Cymru yn herio eu cyfoedion o Loegr yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013 nos Sul.

Mae'r ddau dîm wedi bod yn perfformio ar lefel uchel iawn drwy gydol y gystadleuaeth a hon fydd y tro cyntaf i ieuenctid Cymru chwarae yn rownd derfynol y gystadleuaeth.

Gan edrych ymlaen at y gêm, dywedodd fewnwr ifanc Cymru a'r Scarlets Rhodri Williams bod yr atgof o golli yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad yn ei ysgogi ymlaen.

Chwe Gwlad

"Mae'n cyrraedd y rownd derfynol yn gamp ynddi hun, ond rydym nawr yn canolbwyntio ar yr her nesaf sef i ennill dydd Sul," meddai.

"Dydyn ni heb adael i'n perfformiadau hyd yn hyn fynd i'n pennau. Un diwrnod o seibiant ry'n ni wedi ei gael ac yna aethom yn syth yn ôl at y gwaith o ddadansoddi a pharatoi ar gyfer y rownd derfynol.

"Dydyn ni ddim yn or-hyderus - cawsom ein curo gan Loegr yn eithaf rhwydd yn y Chwe Gwlad - felly fyddwn ni'n cymryd dim yn ganiataol."

Fe wnaeth Lloegr guro Cymru 28-15 ym Mae Colwyn yn gynharach y flwyddyn hon mewn gem oedd yn penderfynu pa dim oedd yn curo'r Gamp Lawn.

Mae Williams yn ffyddiog bod y tîm wedi aeddfedu ers hynny: "Ry'n ni wedi dangos yn y twrnamaint hwn fod gennym yr ystyfnigrwydd i gloddio mewn hyd at y diwedd ac ennill gemau. Rydym yn mynd i angen o leiaf yr un faint o ymrwymiad i guro Lloegr ddydd Sul."

Rhestr fer

Mae'r tîm ifanc wedi curo Samoa (42-3), yr Alban (26-21), yr Ariannin (25-20) a De Affrica (18-17) er mwyn cyrraedd y rownd derfynol sy'n cael ei chynnal yn Vannes, Ffrainc.

Fe wnaeth Sam Davies lwyddo i drosi yn yr eiliadau olaf er mwyn curo De Affrica yn y rownd gyn-derfynol, ac mae wedi ei roi ar restr fer gwobr chwaraewr y twrnamaint.

Mae rhif 8 Lloegr Jack Clifford hefyd ar y rhestr fer - ond curo'r gêm fydd gyntaf ym meddwl Sam Davies ddydd Sul.

Hon fydd y gêm derfynol gyntaf i beidio a chynnwys Seland Newydd ac er mai Lloegr yw'r ffefrynnau dyw Rhodri Williams ddim yn gallu aros i wynebu'r hen elyn.

"Mae Lloegr yn dîm gwych, maent yn gyflym iawn a chorfforol ac fe wnaethon nhw atal Seland Newydd rhag chwarae ar yr ystlys yn yr hanner cyntaf. Fe ddylai fod yn gêm dda iawn ar ddydd Sul, allwn ni ddim aros."

Mae'r gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.