Achub dyn wedi iddo syrthio dros glogwyn

Hofrennydd
Image caption Cafodd y dyn ei achub gan un o hofrenyddion yr Awyrlu Brenhinol

Mae dyn wedi cael ei achub wedi iddo ddisgyn 40 troedfedd dros glogwyn yn Ynys Môn.

Roedd y dyn 40 mlwydd oed yn gyrru ychydig i'r gorllewin o Borth Dafarch, ger pentre' Trearddur pan aeth dros y clogwyn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi iddo gael ei achub gan hofrennydd o orsaf Awyrlu Brenhinol y Fali wedi i ffrind iddo alw'r gwasanaethau brys am 12:10pm ddydd Sadwrn.

Mae wedi torri ei goes a'i fraich.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Caergybi ei fod yn "ddyn lwcus iawn".

Mae'n debyg iddo fethu a rheoli'r modur roedd yn ei yrru wedi iddo fynd i drafferth.