Injan dân mewn damwain yn Abertawe

  • 23 Mehefin 2013

Mae dyn yn yr ysbyty yn dilyn trawiad rhwng car ac injan dân yn Abertawe.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans nid yw anafiadau'r dyn yn ddifrifol.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad bod damwain wedi digwydd ar Ffordd Newcut, Abertawe.

Yn ôl Heddlu De Cymru dim ond difrod arwynebol sydd wedi ei wneud i gerbyd y frigâd dan.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y byddai'r digwyddiad yn cael ei ymchwilio.