O'r bôn i'r brig

Cefnogwyr Abertawe
Marc Evans: '... rhan o'r stori ydy bod y cefnogwyr wedi achub y clwb a bydd e'n grêt meddwl bod y cefnogwyr yn gallu bod yn rhan o'r ffilm hefyd.'

Bydd ffilm yn cael ei gwneud yn adrodd hanes Clwb Pêl-droed Abertawe rhwng 2001 a 2011.

Marc Evans, enillodd BAFTA am ei ffilm Patagonia, yw cyfarwyddwr y ffilm Jack to a King.

Gwerthwyd Abertawe am £1 yn 2001 a bydd y ffilm ddogfen yn canolbwyntio ar yr hyn ddigwyddodd ar ôl hynny hyd at ddyrchafiad yr Elyrch i Uwchgynghrair Lloegr 10 mlynedd wedyn.

"Mae'r ffilm yn ddathliad o ble mae'r Elyrch erbyn hyn," meddai Mr Evans.

'Stori gyffrous'

"A dweud y gwir, mae'n ffilm sy'n delio gyda'r ddinas, gyda'r stori gyffrous.

"Mae'n stori am chwaraeon ond hefyd mae'n stori am y ddinas hon a'i thrigolion."

Dyn busnes o Awstralia brynodd yr Elyrch yn 2001 a bu bron i'w gyfnod wrth y llyw arwain at gwymp y clwb.

Roedd yna brotestiadau ac ym mis Ionawr 2002 trosglwyddwyd y clwb i ofal consortiwm o gefnogwyr.

'Y dyn bach'

Yn 2003 bu bron i'r Elyrch ddisgyn o'r gynghrair bêl-droed ond wyth mlynedd yn ddiweddarach daeth dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

Dywedodd Marc Evans: "Mae pobl yn deall y stori am y dyn bach sy'n llwyddo neu'r dre fach sy'n llwyddo.

"Yn sicr, mae honna mor agos at galon Americanwyr.

"Mae'n anodd peidio gweld stori fel un Hollywoodaidd achos mae'n ymwneud â'r 'underdog' yn llwyddo."

Eisoes mae wedi gofyn i gefnogwyr yfrannu eu deunydd nhw eu hunain i'r ffilm boed hynny'n fideos, yn lluniau neu'n recordiau sain.

"Ni'n byw mewn byd lle mae pawb yn gwneud ffilmiau," meddai.

'Rhan fawr'

"Mewn ffordd mae'r ffans yn rhan fawr o'r stori yma ac mae gan ffans eu harchifau eu hunain.

"Falle ei bod yn archif gyfoes neu falle bod rhywbeth yn yr atig, rhywbeth sy'n perthyn i dad-cu, tad, mam neu fam-gu.

"... rhan o'r stori ydy bod y cefnogwyr wedi achub y clwb a bydd e'n grêt meddwl bod y cefnogwyr yn gallu bod yn rhan o'r ffilm hefyd."

Mae gwybodaeth am sut i gyfrannu deunydd ar wefan ffilm Jack to a King.