Safle Oes yr Haearn

Caer y Silwriaid
Argraff artist o gaer y Silwriaid

Mae archeolegwyr wedi dechrau cloddio o ddifri' safle caer Oes yr Haearn.

Y llynedd roedd cloddio rhagarweiniol yn Nhrelái, Caerdydd, a daethpwyd o hyd i grochenwaith Oes yr Haearn ac olion o'r Oes Efydd.

Y gred yw taw caer y Silwriaid oedd hon cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd.

Rhwystro

Cafodd milwyr Rhufain eu rhwystro gan y Silwriaid dan arweiniad Caradog, tywysog y Catuvellauni o Essex.

Yn 52 OC trechon nhw leng Rufeinig.

Cafodd Caradog yn cael ei ddal a bu farw yn Rhufain tua 54 OC.

Erbyn 75 OC cafodd y Silwriaid eu gorchfygu.

Dywedodd Dr Dave Wyatt, darlithydd hanes y Canol Oesoedd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r crochenwaith yn dyddio'n ôl i 600CC ac mae hyn yn dangos pa mor hir yr oedd y brodorion yn y gaer.

'Canolfan bwysig'

"Yn sicr, roedd hon yn ganolfan bwysig i'r llwyth yn y de-ddwyrain.

"Hwn yw un o'r safleoedd hanesyddol pwysica' yn yr ardal ond prin oedd yr wybodaeth amdano."

Dywedodd nad oedd neb wedi ymchwilio nes iddyn nhw ddechrau eu prosiect yn 2011.

"Y Rhufeiniaid oedd yn denu'r sylw ac mae fila Rufeinig yng Nghae Trelái gafodd ei chloddio yn nauddegau'r ganrif ddiwetha'."