Y Llewod yn chwalu'r Rebels

  • 25 Mehefin 2013
Sgoriodd y Llewod bum cais
Sgoriodd y Llewod bum cais

Mae'r Llewod yn dathlu wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Melbourne Rebels.

35-0 oedd y sgôr terfynol gyda phum cais.

Er i'r tîm cartref amddiffyn yn dda, y Llewod oedd y tîm gorau pan oedden nhw'n medru cadw'r bêl.

15 tacl

Ond cafwyd nifer o gamgymeriadau mewn gêm lac oedd weithiau yn anniben.

Fe fethodd y Llewod 15 tacl ac er bod patrymau pert yn cael eu creu fe gollwyd cyfleoedd.

Daeth y cais cyntaf gan y Gwyddel Conor Murray a hynny bymtheg munud ar ôl i'r gêm ddechrau. Wedi i'r Cymro Toby Faletau fynd yn agos at groesi ei hun, daeth y bêl yn ôl at Murray i dirio'n hawdd.

Ar ôl 28 munud daeth yr ail i Sean Maitland. a phasiodd Simon Zebo hi'n gyflym i Sean Maitland. Llithrodd Faletau - a gafodd ei enwi fel chwaraewr gorau'r gêm - yn agos at y llinell, ond wrth i'r bêl gael ie hailgylchu fe basiodd Simon Zebo at Maitland i sgorio yn agos at y gornel.

Wrth i Owen Farrell lwyddo i drosi'r ddau gais, 14-0 oedd y sgôr ddiwedd yr hanner cyntaf.

Cell gosb

Doedd dim rhaid aros yn hir nes bod Y Llewod yn bygwth unwaith eto gyda chais y blaenasgellwr Sean O'Brien wedi 49 munud, ac fe ddaeth yn dilyn pas gelfydd gan gapten y Llewod am y diwrnod, y Cymro Dan Lydiate.

Cais cosb oedd y pedwerydd un wedi i un o chwaraewyr y Rebels, Jordy Reid, gamochri a chael ei anfon i'r gell gosb.

Mi oedd yna un arall i ddod a hynny wedi 73 munud i'r Sais Ben Youngs, canlyniad cydweithio rhyngddo ef a'i gyd chwaraewr i Loegr Tom Croft.

Ym munudau olaf y gêm roedd yn rhaid i'r Llewod amddiffyn, rhywbeth nad oedden nhw wedi gorfod ei wneud llawer cyn hynny.

Serennu

Ond er i'r Rebels bwyso chafon nhw ddim eu gwobrwyo cyn y chwiban olaf.

Er nad oedd hi'n gêm o'r safon uchaf mi oedd ambell i chwaraewr yn serennu, gan gynnwys y Cymry, Dan Lydiate a Toby Faletau.

Mi fyddan nhw a gweddill carfan Y Llewod yn disgwyl yn eiddgar i gael gwybod pwy fydd wedi eu dewis ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Awstralia.

Daw'r cyhoeddiad hwnnw gan y prif hyfforddwr, Warren Gatland ddydd Iau.