Cwmni: 55 yn colli swyddi

Mae 55 wedi colli swyddi mewn cwmni oedd yn gwasanaethu'r diwydiant adeiladu.

Y cwmni yw Opco yng Nghaerdydd oedd yn darparu gwasanaethau dylunio a thechnegol i'r diwydiant.

Stopiodd fasnachu ddiwedd Ebrill a chafodd y rhan fwya' o'r staff wyliau estynedig.

Erbyn hyn, maen nhw wedi colli eu swyddi a chafodd gweinyddwyr eu penodi ar Fehefin 17.