Cynulliad: Ymchwiliad i wefan stripwyr

  • 25 Mehefin 2013
Carwyn Jones
Carwyn Jones: 'Fe wnaf i sicrhau y bydd ymchwiliad llawn.'

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gorchymyn ymchwiliad pam yr oedd gwefan Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i bobl ifanc sut i ddod yn stripwyr a sefydlu gwasanaeth partneru.

Ym Mae Caerdydd dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott wrth Carwyn Jones: "Rwy' newydd edrych ar wefan Syniadau Mawr sy'n cynghori pobol ifanc sut i gychwyn busnes.

"Mae 'na ddolen rhwng y dudalen 'Canllawiau defnyddiol ar sut i wireddu syniadau' â chyfres o dudalennau ffeithiau, gan gynnwys sut i sefydlu gwasanaeth partneru a sut i ddod yn stripiwr.

"Wrth gwrs, mae'r rhain yn gyfreithiol ond a ddylai Llywodraeth Cymru eu hyrwyddo fel cyfleoedd gyrfaol?"

Atebodd Mr Jones: "Na, ddylen ni ddim.

"Fe ges i wybod am hyn ryw 10 munud cyn dod i mewn i'r Siambr. Fe wnaf i sicrhau y bydd ymchwiliad llawn."

Mae'r wefan bellach wedi cael ei thynnu i lawr.