Huw Lewis yw'r Gweinidog Addysg newydd

Huw Lewis
Image caption Huw Lewis yw'r Gweinidog Addysg newydd

Cyhoeddodd y llywodraeth ar Twitter mai'r cyn Weinidog Trechu Tlodi Huw Lewis fydd yn olynu Leighton Andrews.

Bydd Jeff Cuthbert yn symud o'i swydd fel y Dirprwy Weinidog Addysg i'r swydd mae Mr Lewis yn ei gadael.

Ken Skates fydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ac mae Vaughan Gething yn Ddirprwy Weinidog Trechu Tlodi.

Iaith

Y Prif Weinidog Carwyn Jones fydd yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg.

Gadawodd Mr Andrews y swydd yn hwyr brynhawn Mawrth oherwydd ffrae yn sgil y ffaith ei fod wedi ymgyrchu o blaid amddiffyn ysgol yn ei etholaeth oedd yn wynebu gorfod cau oherwydd polisi'r gweinidog ei hun.

Roedd Mr Andrews yn cael ei ystyried yn un o aelodau mwyaf blaenllaw cabinet Llywodraeth Lafur Cymru.

Fe'i cyhuddwyd gan y gwrthbleidiau o dorri côd ymddygiad gweinidogion y llywodraeth a honnwyd bod gwrthdaro buddiannau rhwng ei rôl fel Gweinidog Addysg a'i waith fel Aelod Cynulliad yn y Rhondda.

'Adeiladu'

Yn fuan wedi ei benodiad, dywedodd Mr Lewis: "Fy mlaenoriaeth gyntaf fydd adeiladu ar y seiliau gwych y gwnaeth Leighton Andrews eu hadeiladu fel Gweinidog Addysg.

"Mae gen i bryder mawr ynglŷn â'r bwlch cyrhaeddiad sydd ar waelod yr ystod economaidd-gymdeithasol, rhywbeth sy'n eu dal nhw yn ôl a ninnau hefyd fel gwlad.

"Y peth cyntaf rwyf am ei wneud yw parhau gyda'r momentwm o ran safonau- a gwrthod derbyn safonau isel ... rwyf eisiau parhau gyda hynny. Hon yw blaenoriaeth rhif un.

"Mae Leighton Andrews a minnau'n rhannu'r un gwerthoedd o ran y ffordd ry'n ni'n meddwl am addysg yn y bôn - pan mae addysg yn methu mae'n methu ein plant ac allwn ni ddim goddef hynny.

'Un cyfle'

"Dim ond un cyfle mae llawer o bobl yn ei gael ac mae'n rhaid i ni fod yno'n sefyll wrth eu hochr bob cam o'r ffordd."

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas ei fod yn edrych ymaen at "berthynas weithio adeiladol" ag e.

"Dwi'n croesawu penderfyniad Carwyn Jones i fod yn gyfrifol am yr iaith."

Mae Dyfodol i'r Iaith wedi croesawu'r ffaith mai'r Prif Weinidog fydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd y mudiad Heini Gruffudd, "Mae angen ystyried lle'r iaith Gymraeg ar draws pob un o feysydd gwaith y llywodraeth, o'r economi i gynllunio, o addysg i iechyd, o dai i gymunedau.

"O roi cyfrifoldeb am y Gymraeg o fewn swyddfa'r Prif Weinidog rydym yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael sylw teilwng.

"Mae Dyfodol yn edrych mlaen i drefnu cyfarfod buan gyda Carwyn Jones i drafod materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg."

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Angela Burns ei bod yn edrych ymlaen at gydweithio ag olynydd "yr unig weinidog â digon o fynd ynddo i gyflawni unrhywbeth".

"Mae Mr Lewis yn wynebu llawer o dasgau a dwi'n ei annog i ystyried cyfeiriad newydd yn achos bandio ysgolion, posibilrwydd cadw TGAU mewn tair gwlad, a chynaliadwyedd ariannu addysg uwch."

Dychwelyd?

Yn ei lythyr yn derbyn ymddiswyddiad Mr Andrews, dywedodd Carwyn Jones fod cefnogaeth Mr Andrews i'r ysgol wedi "drysu'r ffiniau" rhwng y ddwy swydd ond fe ddywedodd ei fod yn gobeithio y gallai Mr Andrews ddychwelyd i'r cabinet yn y dyfodol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Proffil o Leighton Andrews

Roedd Mr Andrews ei hun yn ei lythyr ymddiswyddo wedi dweud ei fod yn "difaru bod fy ymrwymiad i fy etholwyr wedi arwain at wrthdaro ymddangosiadol sydd wedi arwain at drafferthion i'ch llywodraeth."

Yr iaith Gymraeg

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw am i'r cyfrifoldeb am yr iaith ddod o dan adain y Prif Weinidog.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Yng Nghatalonia mae arweinydd y wlad yn gyfrifol am y portffolio iaith.

"Cawsom gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones i drafod sefyllfa'r iaith Gymraeg yn gynharach eleni - roedd yn fodlon ystyried llawer o'r argymhellion yn ein Maniffesto Byw.

"Rŵan yw'r cyfle iddo benderfynu gweithredu ar rai o'r argymhellion hynny.

"Rydym yn edrych 'mlaen at gyfarfod ag o eto yn y Gynhadledd Fawr wythnos nesaf - mae'r Gynhadledd yn gyfle iddo ddangos y bydd polisïau yn newid er lles y Gymraeg.

"Ar adeg mor dyngedfennol i'r iaith ... oherwydd yr angen am ymateb cryf i ganlyniadau'r Cyfrifiad a'r safonau iaith arfaethedig, byddai'n dda cael arweiniad clir o'r lefel wleidyddol uchaf."

Straeon perthnasol