Carwyn Jones a Leighton Andrews
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gweinidog addysg yn ymddiswyddo

25 Mehefin 2013 Diweddarwyd 22:02 BST

Mae gweinidog addysg Llywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo ar ôl ymgyrchu yn erbyn polisi addysg y llywodraeth.

Roedd Leighton Andrews wedi ymgyrchu dros achub ysgol yn ei etholaeth yn y Rhondda, er mai polisi'r llywodraeth ydi cau ysgolion o'r fath sydd â nifer o lefydd gwag.

Wrth dderbyn ei ymddiswyddiad dywedodd prif weinidog Cymru Carwyn Jones fod Mr Andrews wedi drysu'r ffin rhwng ei rôl yn y Llywodraeth a'i swydd fel aelod cynulliad.

Dyma adroddiad gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd.