Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

Llofruddiaeth Wrecsam Image copyright Arall
Image caption Yr heddlu'n ymchwilio i'r llofruddiaeth

Mae dyn 45 oed o Wrecsam wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yng nghanol y dre dros nos.

Cafodd yr heddlu eu galw i Westy'r Cambrian ar Town Hill am 12:43am ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol.

Roedd y dyn 34 oed o ardal Llay wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae'r safle wedi ei chau ac mae'r heddlu yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y digwyddiad neu oedd yn y dafarn adeg y digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101, neu fe allan nhw ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.