Ymateb i araith George Osborne

Ed Balls Image copyright PA
Image caption Dywedodd Ed Balls nad oedd y llywodraeth yn cynnig cynlluniau na gobaith i'r dyfodol

Yn dilyn y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi ei adolygiad gwariant cyhoeddus fe ddaeth ymateb gan ganghellor yr wrthblaid Ed Balls.

Dechreuodd Mr Balls drwy gyhuddo'r glymblaid o fethu diwygio'r economi a'u bod yn gofyn am doriadau pellach am nad oedd wedi medru creu twf yn yr economi.

Dywedodd bod safonau byw teuluoedd cyffredin yn syrthio yn flynyddol, gan ychwanegu bod y glymblaid wedi torri trethi i filiwnyddion.

Cynigiodd y dylai'r Canghellor gyflwyno gwarant am swyddi i bobl ifanc, a hynny'n orfodol, gan dalu am hynny trwy drethu'r taliadau bonws yn y diwydiant bancio.

Roedd Mr Balls yn feirniadol o'r ffaith nad oedd llawer o fanylion yn araith Mr Osborne, a dywedodd fod gan Aelodau Seneddol yr hawl i glywed y manylion.

Yn lle hynny, meddai, byddai'n rhaid dadansoddi'r ffigyrau cyn gwybod yn iawn beth fyddai effaith y toriadau.

Gofynnodd, er enghraifft, a fyddai'r toriadau yn golygu llai o nyrsys a llai o blismyn erbyn 2015-16.

Doedd gan y llywodraeth, meddai, ddim cynlluniau na gobaith i'r dyfodol.

Gweithredu argymhellion

Roedd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Jonathan Edwards AS, yn feirniadol o gynnwys araith y Canghellor o safbwynt Cymru.

"Mae'r adolygiad gwariant yn rhoi darlun llwm o'r dyfodol i Gymru.

"Ac mae polisi toriadau wedi methu, gan adael yr economi naill ai'n crebachu neu'r aros yn ei hunfan yn y blynyddoedd diweddar.

"Yn sicr, mae'r IMF (International Monetary Fund) hyd yn oed wedi galw ar y llywodraeth i liniaru'r toriadau a gwario mwy ar isadeiledd a hybu'r economi.

"Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac adeiladu ysgolion, ysbytai a chysylltiadau trafnidiaeth er mwyn creu swyddi a hybu'r economi.

"Byddai hyn yn lleihau'r diffyg ariannol yn y tymor hir yn hytrach na pholisïau economaidd pleidiau Llundain sydd wedi methu.

"Byddwn hefyd yn pwyso am weithredu holl argymhellion Comisiwn Silk er mwyn trosglwyddo pwerau hollbwysig i greu swyddi i Gymru."

Image copyright PA
Image caption Dywedodd David Jones y dylai Llywodraeth Cymru wario arian cyfalaf ychwanegol yn gall

'Gwariwch yn gall'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones ei fod yn cefnogi cynlluniau'r Canghellor, gan nodi bod cyllideb gyfalaf Cymru wedi cynyddu o 2% erbyn 2015-16.

Yn ôl Mr Jones, mae'r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wario'r arian yn gall.

"Mae ymrwymiad y llywodraeth i gefnogi isadeiledd a thwf yn amlwg yn yr adolygiad gwariant.

'Blaenoriaethau'

"Mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r gyllideb gyfalaf i Lywodraeth Cymru yn ogystal â'r £858 miliwn o adnoddau cyfalaf a gyhoeddwyd yn y gyllideb a datganiad yr hydref.

"Rwy'n herio Llywodraeth Cymru i amlinellu eu blaenoriaethau a defnyddio'r arian i fuddsoddi mewn isadeiledd o safon uchel.

"Fe glywsom hefyd y byddai treth cyngor yn Lloegr yn cael ei rhewi am y ddwy flynedd nesaf. Mae penderfyniadau sut y mae Llywodraeth Cymru am wario'i chyllideb yn fater iddyn nhw, wrth gwrs, ond byddwn yn eu hannog i nodi'r mesurau yma yn ofalus.

"Mae'r llywodraeth yn cydnabod y byddai cyfuniad o grant a'r pŵer i godi arian trwy drethu - fel sydd wedi cael ei argymell gan Gomisiwn Silk - yn cryfhau annibyniaeth ac atebolrwydd ariannol y Cynulliad Cenedlaethol.

"Rydym yn cymryd camau positif wrth asesu argymhellion Comisiwn Silk a'n bwriad yw gwneud cyhoeddiad ar y mater yn y dyfodol agos iawn."

Heriau i Gymru

Roedd ymrwymiad y llywodraeth i gyhoeddi ymateb i Silk yn y dyfodol agos yn plesio Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt AC.

Ond roedd hefyd yn cydnabod yr heriau fyddai'n wynebu Llywodraeth Cymru yn sgil araith Mr Osborne.

"Mae Fformiwla Barnett yn golygu bod setliad cyllidol Cymru gan lywodraeth y DU yn adlewyrchu eu blaenoriaethau nhw.

"Ein her ni yw rheoli sut y gallwn gyflawni ein blaenoriaethau ni o fewn y setliad.

"Rydym yn wynebu toriad o 2% rhwng 2014-15 a 2015-16. Bydd ein cyllideb yn 2015-16 £280m yn llai mewn termau real na'n cyllideb yn 2014-15.

"Mae'n werth nodi hefyd bod y toriadau yma yn dod ar ben y rhai yr ydym wedi gorfod delio â nhw ers 2010 - erbyn 2015/16 bydd ein cyllideb £1,680 miliwn yn llai mewn termau real nag yn 2010/11.

"Rwyf wedi galw'n gyson ar lywodraeth y DU i gynyddu'r gyllideb gyfalaf sydd ar gael i fuddsoddi felly mae'r setliad yna yn siomedig, ac yn methu cyfle.

"Mae bron £180m o'n cyllideb gyfalaf - tua 12% o'r cyfanswm - yn destun cyfyngiadau sy'n golygu y gallwn ond ei gwario ar fenthyciadau.

"Rydym mewn cyfnod anodd, ond fel llywodraeth gyfrifol rydym yn benderfynol yn ein hymrwymiad i warchod buddiannau Cymru."

Straeon perthnasol