David Jones yn 'camddefnyddio ei swydd'

Dafydd Elis-Thomas Image copyright Other
Image caption Mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud fod Ysgrifennydd Cymru yn trio rhwystro datganoli pellach

Mae cyn Lywydd y Cynulliad yn honni fod David Jones yn 'camddefnyddio ei swydd' fel Ysgrifennydd Cymru trwy ddatgan fod y drefn bresennol o ran datganoli yn un ddylai barhau.

Mewn araith ym mae Caerdydd nos Lun fe ddywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd na ddylai Cymru gael yr un pwerau wedi eu datganoli a'r Alban.

Dywedodd fod y setliad presennol o ran datganoli ym Mhrydain yn un sydd yn gweddu.

Mae Swyddfa Cymru wedi dweud na fydden nhw'n ymateb i'r hyn mae'r cyn Lywydd wedi ei ddweud.

Yn yr Alban mae popeth wedi ei datganoli i'r llywodraeth yno heblaw am rhai meysydd arbennig megis amddiffyn.

Yng Nghymru fodd bynnag dim ond y meysydd sydd wedi eu henwi sydd wedi eu datganoli.

Mae rhai gwleidyddion yn galw am newid y drefn i fod fel yr Alban ond anghytuno wna David Jones.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas wedi beirniadu ei sylwadau:

"Pwy ydy o i ddweud hynny oherwydd nid dyna ydy ei job o gyda phob parch. Yr unig reswm bod ganddo fo swydd yng nghabinet y Deyrnas Unedig ydy bod gan Gymru drefn lywodraeth wahanol. Y bobl sydd yn cynrychioli'r drefn honno ydy gweinidogion Cymru."

Rhwystro datganoli

Mae Dafydd Elis Thomas yn dweud ei fod yn defnyddio ei rôl i 'rhwystro datblygiad pellach datganoli':

"Gweinidog sydd yn cynrychioli Cymru yn y Deyrnas Unedig ydy'r ysgrifennydd gwladol, nid Gweinidog sydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng Nghymru ac mae'n bryd iddo fo ddeall y gwahaniaeth."

Dywed nad yw ei safbwyntiau am ddatganoli yn unol gyda theimladau Ceidwadwyr eraill:

"Dw i yn meddwl bod o wedi penderfynu cynnal ryw fath o ddelwedd unoliaethol Geidwadol.

"Efallai bod hynny yn apelio at rhai o'i etholwyr o yn y glannau yna yn Aberconwy. Ond yn sicr dydy o ddim yn adlewyrchu beth ydy barn y Ceidwadwyr Cymreig yn gyffredinol yn enwedig yr Aelodau Cynulliad.

"Dw i'n meddwl bod o yn gwneud cam mewn gwirionedd gyda'r safbwynt Ceidwadwyr Cymreig wrth hyrwyddo'r busnes yma y dylai Cymru fod yr un fath a Lloegr."

Image copyright PA
Image caption Nid oedd swyddfa David Jones am ymateb i sylwadau'r Arglwydd Elis-Thomas

Diddymu Swyddfa Cymru

Yn 2011 wedi pleidlais ie yn y refferendwm fe ddywedodd Dafydd Elis-Thomas y dylai Swyddfa Cymru ddod i ben. Mae'n parhau i gredu hynny ac yn dweud y dylai hyn fod ym maniffesto'r blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr ar gyfer yr etholiad nesaf.

Dywed y byddai Cymru yn parhau i gael ei chynrychioli yn San Steffan trwy Aelodau Seneddol Cymreig a chyfarfodydd rhwng gweinidogion Cymru a Lloegr.

Mae yn teimlo fodd bynnag bod angen gweinidog neu isadran i ddelio efo perthynas llywodraethau gwahanol yn y Deyrnas Unedig ond y dylai hyn ddigwydd yn ganolog gan y Deyrnas Unedig:

"Does dim angen ryw wleidydd o Gymru i ystyried ei hun yn y canol ac i ddweud wrthon ni beth i wneud. Mae hynny yn mynd yn ôl i rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yn nyddiau John Redwood."

Fe wnaeth y BBC gysylltu gyda'r Swyddfa Gymreig i ofyn am ymateb i sylwadau Dafydd Elis-Thomas ond dywedon nhw nad oedden nhw am wneud hynny.

Dweud ei farn

Yn siarad gyda'r BBC cyn ei araith, dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i gael dweud ei farn ar ddatganoli mewn cysylltiad â Chymru.

"Mae'r araith yma'n cael ei gwneud ar adeg lle mae newidiadau cyfansoddiadol mawr yn digwydd yn y wlad hon. Bydd refferendwm, o bosib, yn cael ei gynnal flwyddyn nesaf ar annibyniaeth i'r Alban, ac rwy'n gobeithio y caiff ei golli ac y bydd yr Alban yn parhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd mae llawer o siarad am y model o ddatganoli fyddai'n siwtio Cymru orau ac rwy'n awyddus i gael dweud fy marn ar y mater.

Mae Cymru angen model o ddatganoli sy'n ei siwtio - mae'n wlad sydd wedi ei chysylltu'n agos a Lloegr mewn pob ystyr ac rydym angen model sydd efallai'n wahanol i'r fodel yr Alban."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.