Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

Mae dyn 45 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi digwyddiad yng nghanol Wrecsam fore Mercher.

Cafodd plismyn eu galw i dafarn y Cambrian Vaults am 00:43am yn sgil adroddiadau bod dyn wedi ei anafu'n ddifrifol.

Cyhoeddwyd bod dyn 34 oed o ardal Llai wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd yr ardal yng nghyffiniau'r dafarn ei chau.