Cwmni yswiriant yn creu 117 o swyddi

Yswiriant Giles
Image caption Mae Yswiriant Giles yn cyflogi 1,200 o bobl mewn 40 swyddfa ar draws y DU

Mae cwmni broceriaid yswiriant wedi dweud eu bod yn creu 117 o swyddi yn y de dros gyfnod o dair blynedd.

Dywedodd Yswiriant Giles yn Llantrisant y bydden nhw'n canoli eu holl swyddfeydd mewn un ganolfan ragoriaeth ym Mharc Magden, Llantrisant

"Rydym yn buddsoddi £6m yn y prosiect ac wedi derbyn £1.13m oddi wrth Lywodraeth Cymru," meddai llefarydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart fod y sector ariannol yn rhan bwysig o'r economi.

"Bydd ehangu Giles Insurance nid yn unig yn hwb i'r economi leol ac yn creu nifer fawr o swyddi da iawn ond yn anfon neges mai Cymru yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer y sector."