Tri yn y ras am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn

Mae trydydd enw bellach yn y ras ar gyfer bod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn.

Ann Griffiths yw'r ddiweddaraf i ddatgan ei bwriad - mae Heledd Fychan a Rhun ap Iorwerth eisoes wedi cyhoeddi eu bod am ymgeisio am y sedd gafodd ei gadael yn wag yn sgil ymddiswyddiad annisgwyl Ieuan Wyn Jones.

Bydd cyfarfod cangen Plaid Cymru leol yn penderfynu ar yr ymgeisydd nos Iau a bydd angen i'r penderfyniad wedyn gael ei gadarnhau gan bwyllgor gwaith y blaid.

Nid yw'r pleidiau eraill wedi cyhoeddi pwy fydd eu hymgeiswyr nhw eto.

Straeon perthnasol