Pum newid

  • 27 Mehefin 2013
Mike Phillips
Nid yw Mike Phillips wedi cael lle ar y fainc hyd yn oed

Mae hyfforddwr y Llewod Warren Gatland wedi cyhoeddi pum newid i'w dîm o'r un enillodd y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia.

Mae dau Gymro yn colli eu lle - bydd Ben Youngs yn cymryd lle Mike Phillips fel mewnwr, a Tommy Bowe yn dychwelyd o anaf i gymryd lle Alex Cuthbert.

Roedd sawl un wedi darogan y gallai Youngs ddod i mewn i'r pymtheg yn dilyn perfformiadau dau yn ddiweddar, gan gynnwys cais gwych yn erbyn y Melbourne Rebels fore Mawrth.

Gwobr i Lydiate

Un Cymro sy'n dod i mewn i'r tîm yw Dan Lydiate, sy'n cymryd lle Tom Crofts fel blaenasgellwr. Mae hynny'n wobr am berfformiad amddiffynnol gwych wrth arwain y Llewod i fuddugoliaeth yn erbyn y Rebels.

Mae'r newid yma hefyd yn cael ei weld fel mesur amddiffynnol oherwydd absenoldeb Phillips.

Dywedodd gohebydd rygbi BBC Cymru Gareth Charles bod Lydiate wedi "taclo'i ffordd i mewn i'r tîm" yn dilyn ei berfformiad ganol wythnos, ac fe fydd â'r gwaith o amddiffyn Youngs sydd yn llai o gorff na Mike Phillips.

Y ddau newid arall yw bod Maku Vunipola yn dod i mewn yn lle Alex Corbisiero fel prop, a Geoff Parling yn yr ail reng yn lle Paul O'Connell - y ddau oherwydd anafiadau.

Dywedodd Gatland bod Phillips "yn iach ac ar gael i chwarae" er nad yw'r Cymro wedi bod yn ymarfer yn llawn drwy'r wythnos oherwydd anaf i'w ben-glin.

"Y penderfyniad oedd i roi gorffwys iddo'r wythnos hon," meddai Gatland.

"Mae e'n un o'r harfau pwysig ni'r wythnos nesaf o bosib. Wrth ystyried safon y mewnwyr sydd gennym, maen nhw i gyd wedi gwneud job gwych i ni.

"Roeddem yn teimlo ei bod yn gall i sicrhau bod Mike 100% yn ffit ar gyfer yr wythnos nesaf."

Daeth cadarnhad hefyd nad yw Jamie Roberts wedi gwella o'i anaf yntau, ac felly fe fydd Jonathan Davies yn parhau gyda'i bartneriaeth â'r Gwyddel Brian O'Driscoll yn y canol.

Saith Cymro fydd yn dechrau'r gêm felly, gyda dau arall - y bachwr Richard Hibbard ac arwr y prawf cyntaf Alex Cuthbert.

TÎM Y LLEWOD v. AWSTRALIA - YR AIL BRAWF: Melbourne, Dydd Sadwrn Mehefin 29:-

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

14. Tommy Bowe (Iwerddon)

13. Brian O'Driscoll (Brian O'Driscoll)

12. Jonathan Davies (Cymru)

11. George North (Cymru)

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

9. Ben Youngs (Lloegr)

1. Mako Vunipola (Lloegr)

2. Tom Youngs (Lloegr)

3. Adam Jones (Cymru)

4. Alun Wyn Jones (Cymru)

5. Geoff Parling (Lloegr)

6. Dan Lydiate (Cymru)

7. Sam Warburton (Cymru, capten)

8. Jamie Heaslip (Iwerddon).

Eilyddion: Richard Hibbard (Cymru), Ryan Grant (Yr Alban), Dan Cole (Lloegr), Tom Croft (Lloegr), Sean O'Brien (Iwerddon), Conor Murray (Iwerddon), Owen Farrell (Lloegr), Alex Cuthbert (Cymru).