Geraint Thomas ar gael i Gymru

Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Mae Geraint Thomas yn credu y gall Cymru gystadlu am fedalau

Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi cadarnhau y bydd ar gael i gystadlu dros Gymru yn Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow.

Mae Thomas, sydd wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd, wrthi'n paratoi ar gyfer ras y Tour de France ar hyn o bryd.

Dywedodd y bydd yn troi ei sylw bron yn llwyr at rasio ar y ffordd yn hytrach na'r trac o hyn ymlaen.

Ei obaith yw cystadlu yn y ras ffordd a'r prawf amser yn Glasgow.

"Fe fyddaf yno yn bendant," meddai. "Dydw i ddim yn siwr eto pryd yn union fydd y cystadlaethau, ac mae'n weddol agos i ddiwedd y Tour unwaith eto.

"Ond rwy'n siwr o fod yno i wneud y ras ffordd a'r prawf amser.

"Mae hi wedi bod yn gryn amser ers i mi wisgo crys Cymru, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr."

Roedd Thomas yn cydnabod mai Lloegr ac Awstralia fydd y ffefrynnau am y medalau aur yn Glasgow, ond mae'n credu bod gan Gymru ddigon o dalent i herio am fedalau hefyd.

Enwodd Luke Rowe ac Owain Doull fel rhai o'r talentau mwyaf, tra bod Sam Harrison a Jon Mould hefyd yn dechrau gwneud eu marc.

Bydd y Tour de France eleni yn gorffen ar Orffennaf 21. Os fydd y ras yn 2014 yn gorffen tua'r un adeg, fe fyddai gan Thomas rhwng 10 a 13 diwrnod o orffwys cyn i'r cystadlu ddechrau yn Glasgow.

Straeon perthnasol